gwefan.org

 

Trydaru

 

Draig Goch


Dewiswch o 32 o Ffrydiau Cymraeg

Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
Cardiff City Cymraeg
Cymdeithas yr Iaith
Blogiadur
maes-e
Golwg RSS
Golwg360 Trydar
Haciaith
Menter Caerdydd Trydar
Cyngor Caerdydd Trydar
Pentyrch
Comisiynydd y Gymraeg
Castell-nedd Port Talbot
Fideo Bob Dydd
S4C arlein
Rondo
BBC Newyddion Cymru
Radio Cymru
Plaid Cymru
Lleol.Net
Y Lolfa
Blogiau Daily Post
Recordiau Sain
Menter a Busnes
Iaith Cyf
Trydar y Cymry Prif Newyddion
Trydar y Cymry
Leighton
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Adran Addysg
Pigion Cynulliad
Ffrwti


PIGION
gan Senedd Ymchwil, Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Adroddiad Monitro Trafodaethau ynglŷn â Gadael yr Undeb Ewropeaidd
19/04/2018, 3:11 pm

19 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cyhoeddi adroddiadau monitro trafodaethau rheolaidd ar gyfer Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol y Cynulliad, ar y papurau sefyllfa diweddaraf, y cyhoeddiadau a’r datblygiadau yn y trafodaethau ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd, sydd o bwys i Gymru. Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf yma.

Trafodaethau ar y DU yn Ymadael â’r UE: Adroddiad Monitro – 16 Ebrill 2018 (PDF, 1,563KB).


Erthygl gan Joseph Champion, Nia Moss & Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Llun: o Flickr gan Dave Kellam Dan drwydded Creative Commons.


Y Twrnai Cyffredinol yn cyfeirio Bil “parhad” Cymru i’r Goruchaf Lys
19/04/2018, 2:07 pm

19 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Rhoddodd Jeremey Wright QC AS, Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr wybod i’r Cynulliad ar 17 Ebrill 2018 fod Llywodraeth y DU wedi cyfeirio’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), a basiwyd gan y Cynulliad ar 21 Mawrth, i’r Goruchaf Lys. Mae’r datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan y Twrnai Cyffredinol yn nodi bod Llywodraeth y DU yn gofyn i’r Goruchaf Lys am:

…. a ruling on whether this legislation is constitutional, and properly within devolved legislative powers.

Yn ei ddatganiad i’r Cynulliad ar 18 Ebrill, dywedodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol, fod y Twrnai Cyffredinol wedi cyfeirio’r Bil am y rhesymau a ganlyn:

Beth yw’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) a pham y cafodd ei gyflwyno?

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth y DU yn ceisio pasio Bil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)  drwy Senedd y DU. Mae’r Bil yn darparu ar gyfer trosglwyddo deddfwriaeth yr UE sydd ar waith ar hyn o bryd yn y DU i ddeddfwriaeth y DU ar y diwrnod y bydd y DU yn gadael yr UE. Mae hefyd yn rhoi pwerau i Weinidogion y DU a Gweinidogion Datganoledig ddiwygio’r corff cyfreithiau a drosglwyddir fel y gall weithredu yn y DU ar ôl gadael.

Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn anghytuno ar y darpariaethau yn y Bil Ymadael sy’n ymwneud â datganoli. Mae Gweinidogion Cymru a’r Alban yn dadlau bod y Bil Ymadael, fel y’i drafftiwyd ar hyn o bryd, yn cyfateb i Lywodraeth y Du yn ‘bachu pŵer’ dros feysydd cymhwysedd datganoledig. Maent wedi argymell na ddylai Cynulliad Cymru na Senedd yr Alban roi eu Cydsyniad Deddfwriaethol i’r Bil fel y’i drafftiwyd. Mae ein canllaw rhagarweiniol i’r Bil Ymadael yn egluro safbwyntiau’r gwahanol lywodraethau’n fanylach.

Mae trafodaethau wedi bod yn mynd ymlaen rhwng y gwahanol lywodraethau ar y Bil Ymadael, ond hyd yma ni ddaethpwyd i unrhyw gytundeb ar sut y gellid diwygio’r Bil i fynd i’r afael â phryderon Llywodraethau Cymru ac Alban.

Yn wyneb y methiant hwn i gyrraedd cytundeb, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ei Bil ei hun, y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru),  i’r Cynulliad ar 6 Mawrth. Yn ôl  Llywodraeth Cymru, amcanion y Bil yw gwarchod cyfraith yr UE sy’n cwmpasu meysydd datganoledig ar ôl gadael yr UE mewn ffordd sy’n amddiffyn y setliad datganoli. Wrth gyflwyno’r Bil, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid Llywodraeth Cymru:

Er ein bod yn cydweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau’r gwelliannau hyn – ac yn wir rydym wedi symud ymlaen cryn dipyn dros yr wythnosau diwethaf – rydym eto i ddod i gytundeb.

Dan yr amgylchiadau hyn, byddai’n anghyfrifol i ni fethu â pharatoi ar gyfer sefyllfa o weld y Cynulliad yn gwrthod rhoi cydsyniad i’r Bil i Ymadael â’r UE. Mae’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r UE yn opsiwn wrth gefn i sicrhau parhad deddfwriaethol yng Nghymru mewn ffordd sy’n parchu’r setliad datganoli.

Cytunodd y Cynulliad i ystyried y Bil fel Bil Brys ac felly aeth drwy’r Cynulliad mewn ychydig dros bythefnos. Pleidleisiodd yr Aelodau i gefnogi’r Bil o 39 pleidlais i 13 gydag un yn ymatal ar 21 Mawrth.

Cymerodd Llywodraeth yr Alban gamau tebyg yn yr Alban gan gyflwyno Bil y DU yn Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Parhad Cyfreithiol) (Yr Alban) i Senedd yr Alban ar 27 Chwefror. Mae’r Bil wedi ei ddrafftio’n wahanol i Fil Cymru ond mae ganddo amcanion tebyg. Fe’i pasiwyd gan Senedd yr Alban ar 21 Mawrth.

Pam bod y  Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei gyfeirio i’r Goruchaf Lys?

Caiff Twrnai Cyffredinol Llywodraeth y DU a Chwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru gyfeirio unrhyw un o Filiau’r Cynulliad i’r Goruchaf Lys os ydynt yn credu bod amheuaeth ynghylch a yw Bil o fewn pwerau datganoledig y Cynulliad. Yn y datganiad i’r wasg adeg cyfeirio’r Bil, dywedodd Twrnai Cyffredinol Cymru a Lloegr:

This Legislation risks creating serious legal uncertainty for individuals and businesses as we leave the EU. This reference is a protective measure which we are taking in the Public interest.

Mae’r datganiad i’r wasg hefyd yn datgan fel a ganlyn: ‘to leave these pieces of Legislation on the statute book would create very significant legal uncertainty as to how the law would operate’.

Rhaid i’r Llywydd, cyn neu wrth gyflwyno Bil i’r Cynulliad, ddatgan a yw’r Bil neu unrhyw ddarpariaeth o Fil, yn ei barn hi, o fewn cymhwysedd y Cynulliad ai peidio.  Dywedodd y Llywydd ar 27 Chwefror ei bod yn fodlon bod y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd o fewn cymhwysedd y Cynulliad a chyhoeddodd nodyn i Aelodau’r Cynulliad yn esbonio’r materion y bu’n eu hystyried wrth wneud ei phenderfyniad. Wrth wneud ei phenderfyniad, fodd bynnag, roedd y Llywydd yn cydnabod bod dadleuon sylweddol yn erbyn cymhwysedd deddfwriaethol yn bodoli ar gyfer y Bil.

Mewn ymateb i benderfyniad y Twrnai Cyffredinol i gyfeirio’r Bil, gwnaeth Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru ddatganiad i’r Cynulliad ar 18 Ebrill, yn dweud:

Byddwn yn parhau i ystyried y penderfyniad i gyfeirio, a’r dadleuon manylach y bydd gofyn i’r Twrnai Cyffredinol eu darparu maes o law i gefnogi’i benderfyniad i gyfeirio fel rhan o’r trafodion.

Ond, gallaf sicrhau’r Aelodau y byddwn, lle bo angen, yn amddiffyn y cyfeiriad yn llawn.

Yn benodol, rydym yn cymryd camau i gael gwrandawiad cyflym, a byddwn yn sicrhau bod y Cynulliad yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw ddatblygiadau yn hyn o beth.

Fel y pwysleisiais, rydym yn parhau i weithio tuag at sicrau cytundeb ar Fil yr UE (Ymadael).

Beth yw’r camau nesaf?

Mae trafodaethau’n parhau rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraethau Datganoledig ar y Bil Ymadael. Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai ei dewis yw sicrhau cytundeb ar Fil yr UE (Ymadael) yn hytrach na gorfod defnyddio’r pwerau a roddwyd iddi yn y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd. ​​Mae’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd yn cynnwys darpariaeth a fyddai’n galluogi’r Bil i gael ei ddiddymu ar ôl ei ddeddfu. Os deuir i benderfyniad ar welliannau i’r Bil Ymadael, ac os bydd y Cynulliad yn pleidleisio i roi cydsyniad deddfwriaethol i’r Bil, mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ddiddymu’r Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd, ac y byddai’n disgwyl, bryd hynny, y byddai’r penderfyniad i gyfeirio’r Bil at y Goruchaf Lys yn cael ei dynnu’n ôl. Yn y datganiad i’r wasg adeg cyfeirio’r Bil, dywedodd y Twrnai Cyffredinol y byddai’n well gan Lywodraeth y DU hefyd ddod i gytundeb ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael):

The Government very much hopes this issue will be resolved without the need to continue with this litigation.

Mae Bil yr UE (Ymadael) yn y Cyfnod Adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi ar hyn o bryd. Daw’r cyfnod hwn i ben ar 8 Mai 2018. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i gyflwyno unrhyw welliannau i ddarpariaethau datganoli’r Bil yn y Cyfnod Adrodd.


Erthygl gan Nia Moss, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Beth yw’r ffigurau diweithdra diweddaraf? Dyma ein ffeithlun am y farchnad lafur
19/04/2018, 12:56 pm

19 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ffeithlun yn dangos y ffigurau diweddaraf am y farchnad lafur yng Nghymru.


Erthygl gan Helen Jones, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Cyhoeddiad newydd: Ansawdd Aer
19/04/2018, 9:15 am

19 Ebrill 2018

Darllenwch ganllaw y Gwasanaeth Ymchwil ar Ansawdd Aer cyn datganiad Gweinidog yr Amgylchedd ddydd Mawrth 24 Ebrill.

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Mae gan Gymru peth o’r ansawdd aer gwaethaf yn y DU. Mae gan Gaerdydd a Phort Talbot  lefelau mater gronynnol uwch na Birmingham neu Fanceinion, a ffordd yng Nghaerffili yw’r ffordd fwyaf llygredig y tu allan i Lundain. Mae’r llygredd aer hwn yn cyfrannu tuag at 2,000 o farwolaethau y flwyddyn yng Nghymru. Fe’i disgrifiwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fel argyfwng iechyd cyhoeddus brys, gan ddweud mai dim ond ysmygu sy’n waeth argyfwng. Mae rhai ardaloedd yng Nghymru wedi torri rheoliadau’r UE ers sawl blwyddyn, gyda Llywodraeth Cymru yn y pen draw yn cael ei herlyn am ei diffyg gweithredu.

Yn wahanol i’r Alban, sydd â’i Strategaeth Ansawdd Aer ei hun a therfynau llygredd is, mae’r strategaeth ansawdd aer yng Nghymru wedi’i phennu i raddau helaeth gan reoliadau’r UE, a’i darparu gan Awdurdodau Lleol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymyrryd yn Ardal Rheoli Ansawdd Aer Castell-nedd Port Talbot yn unig. Mae cyhoeddi Cynllun Aer Glân i Gymru yn 2018 yn awgrymu bod Llywodraeth Cymru yn mynd i weithredu mwy ar ansawdd aer.

Cyhoeddiad newydd: Ansawdd Aer (PDF, 938KB)

Mae’r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Robert Abernethy gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a’r Gwyddorau Ffisegol, a alluogodd i’r papur briffio hon gael ei chwblhau.


Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


Cynllunio ar gyfer y dyfodol: diwygio Polisi Cynllunio Cymru yn llwyr
17/04/2018, 2:44 pm

17 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Bydd ymgynghoriadau’n cael eu cynnal yn ystod y gwanwyn yn 2018 ar ddwy ddogfen polisi cynllunio bwysig a fydd yn fframio sut y bydd y system gynllunio yng Nghymru yn gweithio yn y dyfodol rhagweladwy.

Mae’r ymgynghoriad ynghylch Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10 eisoes wedi dechrau a bwriedir cynnal ymgynghoriad ar y drafft cyntaf o’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol newydd yn fuan iawn.

Polisi Cynllunio Cymru yw polisi cynllunio defnydd tir cenedlaethol Llywodraeth Cymru ac fe’i cyhoeddwyd gyntaf yn 2002. Dyma’r cam cyntaf o ran y polisi cynllunio yng Nghymru ac fe’i cefnogir gan gyfres o Nodiadau Cyngor Technegol a chanllawiau eraill.

Bydd y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn nodi fframwaith defnydd tir 20 mlynedd ar gyfer Cymru gyfan a bydd yn llywio’r cynlluniau datblygu cysylltiedig – sef Cynlluniau Datblygu Strategol a Chynlluniau Datblygu Lleol. Bydd hefyd yn cefnogi penderfyniadau ar brosiectau seilwaith ar raddfa fawr drwy’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol.

Disgwylir i’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol terfynol gael ei gyhoeddi ddechrau 2020, yn dilyn cyfnod ymgynghori helaeth a fydd yn cynnwys gwaith craffu gan y Cynulliad.

Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio ar yr ymgynghoriad ynghylch Polisi Cynllunio Cymru. Bydd y Gwasanaeth Ymchwil yn trafod yr ymgynghoriad ynghylch y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft unwaith y bydd wedi dechrau. Yn y cyfamser, gweler ein herthygl flaenorol sy’n cyflwyno’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

Y sbardun ar gyfer newid

Y prif sbardun ar gyfer diweddaru Polisi Cynllunio Cymru yw ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ailstrwythuro’r polisi cynllunio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Mae’r drafft yn ceisio ymgorffori saith nod llesiant y Ddeddf a phum ffordd o weithio yn llawn fel rhan o bolisi cynllunio am y tro cyntaf. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths AC, fod Polisi Cynllunio Cymru ‘wedi ei addasu’ i ystyried y Ddeddf, wrth iddi lansio’r ymgynghoriad ym mis Chwefror 2018.

Mae creu lleoedd hefyd yn un o nodau amlwg y fersiwn newydd. Mewn cyfweliad ar gyfer ‘Planner’, sef cylchgrawn y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru, eglurodd Neil Hemington, Prif Gynllunydd Llywodraeth Cymru:

Placemaking complements well-being: by taking a holistic approach early on in the development process, planners can help shape good-quality places that are attractive, sociable and ultimately successful developments.

Strwythur newydd

Felly, mae strwythur newydd Polisi Cynllunio Cymru wedi ei seilio ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r nod o greu lleoedd. Mae’n cyflwyno Pum Egwyddor Cynllunio Allweddol a Chanlyniadau Cenedlaethol newydd o ran Creu Lleoedd sy’n disgrifio beth sy’n creu lleoedd llwyddiannus a chynaliadwy.

Mae pynciau’r polisi wedi’u trefnu’n unol â chyfres o themâu gyda’r nod o’i gwneud hi’n haws nodi meysydd polisi sy’n gysylltiedig â’i gilydd. Er enghraifft, mae’r bennod ar Leoedd Actif a Chymdeithasol yn cynnwys polisi ar dai, manwerthu, cyfleusterau cymunedol, mannau hamdden a thrafnidiaeth.

 

Newidiadau polisi

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi achub ar y cyfle i ddiweddaru Polisi Cynllunio Cymru mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

Ymchwiliadau gan bwyllgorau

Mae ymchwiliadau diweddar gan bwyllgorau’r Cynulliad i wahanol faterion polisi wedi tynnu sylw at feysydd lle y mae rhanddeiliaid yn credu y gellid gwella polisi cynllunio.

Er enghraifft, mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi clywed sut y dylai Polisi Cynllunio Cymru wneud mwy i hyrwyddo nodau Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013.

Mae’r un Pwyllgor wedi dod i’r casgliad bod angen gwneud mwy i gefnogi awdurdodau cynllunio lleol wrth gynllunio canol trefi a pharciau adwerthu y tu allan i ganol trefi, ac mae wedi argymell y dylid diwygio polisi cynllunio er mwyn cefnogi mwy o fuddsoddiad mewn cysylltedd digidol. Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru i’r casgliadau a’r argymhellion hyn yn y lincs uchod.

Fel rhan o’i waith ar Gynllun Morol Cenedlaethol drafft Cymru, mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi clywed y dylai fod cysylltiadau cryfach rhwng polisi cynllunio daearol a morol.

Un o brif negeseuon allweddol ymchwiliad diweddar y Pwyllgor i Dai Carbon Isel  yw’r angen i gynllunwyr symud tuag at roi blaenoriaeth i ddyluniad carbon isel, a’r angen i edrych ar y sefyllfa o safbwynt cyfannol er mwyn hwyluso datblygiad cynaliadwy.

Ymateb

Mae rhanddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb wrthi’n paratoi eu hymatebion i’r ymgynghoriad, ond mae rhai ymatebion eisoes wedi dod i’r amlwg.

Er enghraifft, mae cwmni ymgynghori Barton Willmore wedi cyhoeddi dadansoddiad manwl o’r Polisi Cynllunio Cymru drafft. Ymhlith pethau eraill, mae’n croesawu cynyddu’r pwyslais ar gydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol ac yn nodi’r diffyg cynnydd wrth ddatblygu Cynlluniau Datblygu Strategol ers i Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 dderbyn Cydsyniad Brenhinol bron i dair blynedd yn ôl.

Yng nghyswllt hyn, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ysgrifenedig ym mis Rhagfyr 2017 yn gwahodd awdurdodau cynllunio lleol i gyflwyno cynigion ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol ar y cyd a, lle y bo’n briodol, Cynlluniau Datblygu Strategol.

Mae Coed Cadw wedi mynegi pryder bod geiriad y polisi newydd arfaethedig yn gwanhau’r mesurau ar gyfer amddiffyn coetiroedd hynafol. Fodd bynnag, wrth ymateb i gwestiwn ar y mater yn ystod un o gyfarfodydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, dywedodd y Prif Gynllunydd mai bwriad y polisi o hyd yw diogelu coetiroedd hynafol, er bod y geiriau wedi newid, ac os oes gan bobl bryderon, y gellid edrych eto ar y geiriad.

Mae’r ymgynghoriad ynghylch Polisi Cynllunio Cymru ar agor tan 18 Mai 2018, a gellir dod o hyd iddo yma: Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10


Erthygl gan Elfyn Henderson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Dogfen ymgynghori Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10


Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit?
16/04/2018, 2:00 pm

16 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Y cefndir

Dechreuodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymchwiliad i ymateb gweinyddol ac ariannol Llywodraeth Cymru i Brexit ym mis Hydref 2017. Roedd cwestiynau wedi’u codi mewn nifer o ymholiadau blaenorol y Pwyllgor am wydnwch a pharodrwydd y sector cyhoeddus a’r sector preifat yng Nghymru a pha mor bwysig yw paratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd yn sgil Brexit. O ganlyniad, penderfynodd y Pwyllgor edrych ar sut y dylai’r sector cyhoeddus a busnesau yng Nghymru fod yn paratoi ar gyfer Brexit.

Diben yr ymchwiliad oedd ystyried:

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad, Sut y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar gyfer Brexit? (PDF, 744KB) ar 5 Chwefror.

Mae rhan gyntaf yr adroddiad yn canolbwyntio ar gynllunio sefyllfaoedd ac ymgysylltu, tra bod ail ran yr adroddiad yn ystyried pa mor barod yw gwasanaethau cyhoeddus a’r economi.

O ran cynllunio sefyllfaoedd ac ymgysylltu, gwnaeth y Pwyllgor nifer o argymhellion sydd wedi’u hanelu at Lywodraeth Cymru, gan gynnwys argymell y dylai Llywodraeth Cymru:

O ran pa mor barod yw gwasanaethau cyhoeddus a’r economi ar gyfer Brexit, argymhellodd y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru:

Ymateb Llywodraeth Cymru

Croesawyd adroddiad y Pwyllgor gan Lywodraeth Cymru. Cyhoeddwyd ymateb ffurfiol y Prif Weinidog i’r adroddiad (PDF 141KB) ar 12 Ebrill. Derbyniwyd tri o’r argymhellion a derbyniwyd pedwar arall o ran egwyddor.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad yn ymwneud ag ymgysylltu â rhanddeiliaid ac ymrwymodd i gynyddu’r ymgysylltiad hwn, gan gynnwys drwy ddefnyddio sefydliadau cynrychioliadol yn fwy effeithiol er mwyn rhaeadru gwybodaeth i sefydliadau unigol.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru fod angen ceisio eglurder gan Lywodraeth y DU ynghylch y Gronfa Rhannu Ffyniant hefyd. Mae’r Prif Weinidog yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn gwrthod y syniad o gael cronfa datblygu economaidd a weinyddir yn ganolog a’u bod yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod penderfyniadau ynghylch buddsoddiad rhanbarthol yn parhau i gael eu gwneud yng Nghymru.

Yn olaf, derbyniodd Llywodraeth Cymru yr argymhelliad ynglŷn â’i strategaeth addysg uwch.

Argymhellion a dderbyniwyd o ran egwyddor

Roedd un o’r argymhellion a dderbyniwyd o ran egwyddor yn ymwneud â pharatoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd Brexit, gan gynnwys “dim cytundeb”. O ran sefyllfa “dim cytundeb”, dywed y Prif Weinidog:

[…]rydym wedi pwysleisio’n barhaus y byddai hynny’n drychinebus i Gymru. Felly, nid ydym yn awyddus i normaleiddio canlyniad trychinebus o’r fath, ond rydym yn cydnabod, pe na bai Llywodraeth y DU yn llwyddo i daro bargen â’r UE27, fod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod y trefniadau angenrheidiol ar waith mewn meysydd sydd wedi’u datganoli. Mae holl adrannau Llywodraeth Cymru yn dwysáu eu gwaith o ran y trefniadau gweithredol posibl y gallai fod eu hangen i wneud yn siŵr ein bod yn barod ar gyfer ein hymadawiad â’r UE, yn seiliedig ar wahanol senarios.

Fodd bynnag, pwysleisir yn yr ymateb nad yw Llywodraeth Cymru yn credu y gellir lleddfu’n llwyr yr effaith y byddai “dim cytundeb’” yn ei chael ar Gymru, ac mewn sefyllfa o’r fath, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU fyddai gwneud y trefniadau angenrheidiol a sicrhau adnoddau.

Wrth ymateb i’r argymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r naw dadansoddiad sector, dywed y Prif Weinidog:

Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â’n holl dimau sy’n ymwneud â’r sectorau, er mwyn nodi’r bylchau yn ein data a chael gwell dealltwriaeth o’r darlun ar draws pob un o’r sectorau y bydd ymadawiad y DU â’r UE yn effeithio arnynt.

Mae’r ymateb hefyd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i effaith Brexit ar fusnesau bach a chanolig yng Nghymru, gan gynnwys effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol drwy’r gadwyn gyflenwi.

O ran yr argymhelliad ynghylch rhoi arweiniad i’r sector preifat, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector ar oblygiadau posibl Brexit, dywed y Prif Weinidog y gallai hynny fod yn ‘broses hirfaith a dryslyd’ ac y ‘byddai’n debygol o arwain at ansicrwydd pellach’ ar y cam hwn o’r trafodaethau. Fodd bynnag, mae’n dweud unwaith y bydd dilysrwydd a thebygolrwydd gwahanol sefyllfaoedd yn gliriach, fe roddir arweiniad i randdeiliaid ar y goblygiadau cyn gynted ag y bo modd.

Yn olaf, o ran nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario’r dyraniadau canlyniadol a ragwelir yn sgil gwario arian ychwanegol ar lefel y DU i baratoi ar gyfer Brexit, mae’r Prif Weinidog yn dweud:

Nid yw Llywodraeth Cymru, fel mater o drefn, yn pasbortio’r cyllid canlyniadol sy’n codi o benderfyniadau gwariant a wneir gan Lywodraeth y DU. Mater i Lywodraeth Cymru yw penderfynu sut, law yn llaw â’r grant bloc presennol, y mae unrhyw ddyraniadau ychwanegol a dderbyniwn o ganlyniad i benderfyniadau gwariant a wneir yn Lloegr mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, yn cael eu dyrannu i adlewyrchu ein blaenoriaethau. Mae’r Cynulliad Cenedlaethol yna’n pleidleisio ar ein Cyllideb derfynol yn dilyn proses graffu gan y Pwyllgor Cyllid.

Mae’r ymateb yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Cronfa Bontio’r UE, sy’n werth £50 miliwn, i roi cymorth i fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus. Yn ôl y Prif Weinidog, bydd y gronfa hon yn defnyddio’r arian canlyniadol a ddyrennir i Gymru drwy fformiwla Barnett o ganlyniad i’r £3 biliwn a gyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU yn yr hydref i baratoi ar gyfer Brexit, a bydd hefyd yn manteisio ar yr hyblygrwydd sydd ar gael drwy gronfa wrth gefn Cymru.

Y camau nesaf

Bydd y Cynulliad yn trafod adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ebrill. Gallwch wylio’r ddadl yn fyw ar www.senedd.tv.

Mae’r Pwyllgor yn parhau i edrych ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran cynllunio ar gyfer Brexit. At hynny, archwiliwyd rhai o’r pryderon sectorol a ddaeth i’r amlwg yn ystod yr ymchwiliad, yn enwedig ym maes iechyd, addysg uwch a chydraddoldeb, yn ystod gwaith diweddaraf y Pwyllgor ar Berthynas Cymru ag Ewrop yn y dyfodol (PDF, 9MB).


Erthygl gan Manon George, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru

 


A fydd S4C mewn cyflwr addas i’r dyfodol?
13/04/2018, 10:48 am

13 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ym mis Mawrth 2018, derbyniodd Llywodraeth y DU bob un o’r casgliadau mewn adroddiad annibynnol ar S4C, y darlledwr iaith Gymraeg. Mae hyn yn paratoi’r ffordd ar gyfer newidiadau i’r hyn y mae cylch gwaith y darlledwr yn caniatáu iddo ei wneud, sut y mae’n cael ei drefnu, a sut dylid ei ariannu. Ond, nid yw’n dweud dim yn benodol am faint o arian y dylai S4C ei gael.

Y cefndir               

Cafodd S4C ei sefydlu trwy ddeddfwriaeth yn 1982, yn dilyn ymgyrch. Hi yw’r unig ddarlledwr teledu Cymraeg, ac mae 98 y cant o’i chyllid yn arian cyhoeddus. Yn 2017, cynhaliodd Euryn Ogwen Williams – cyn-gyfarwyddwr rhaglenni S4C – adolygiad o’r sianel ar ran Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) Llywodraeth y DU, sef yr adolygiad cyntaf er 2004.

Cyfrifoldeb a gedwir gan San Steffan yw darlledu, ond er hynny, roedd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad yn awyddus i ddylanwadu ar adolygiad arfaethedig DCMS. Yn 2017, fe gyhoeddodd Tu allan i’r Bocs, sef adroddiad ar S4C. Yn ystod yr ymchwiliad hwn, cyhoeddodd S4C ei gweledigaeth am ddyfodol y gwasanaeth, sef Gwthio’r Ffiniau.

Sut y dylai S4C gael ei hariannu?

Yn 2010, roedd S4C yn wynebu gostyngiadau yn ei chyllid a newidiadau i’r ffordd y darperir y cyllid hwnnw. Tan hynny, daethai’r rhan fwyaf o refeniw S4C yn uniongyrchol DCMS, yn gysylltiedig â chwyddiant, ond er mis Ebrill 2013, mae’r rhan fwyaf o’r cyllid hwnnw wedi dod o ffi’r drwydded drwy law Ymddiriedolaeth y BBC, gyda DCMS yn parhau i ddarparu grant bach (£6.7 miliwn ar hyn o bryd). Mae incwm masnachol S4C yn cyfrif am tua 2 y cant o incwm cyffredinol y darlledwr.

Mae’r graff isod yn dangos y gostyngiad yn incwm cyhoeddus y sianel er 2010:

 

Rhwng 2010 a 2016-17, gostyngodd arian cyhoeddus S4C o £101.6 miliwn i £81.3 miliwn. Roedd hyn yn doriad o 27 y cant mewn termau real.

Mae adolygiad DCMS yn cynnig symud i ffi’r drwydded ar gyfer y cyfan o arian cyhoeddus S4C o 2022-23, pan fydd y setliad nesaf ar gyfer ffi’r drwydded yn dechrau. Mae’n nodi mai dyma’r unig ffordd o sicrhau sefydlogrwydd o ran cyllido’r sianel.

Mae’r cynnig hwn yn mynd yn groes i farn Pwyllgor y Cynulliad, S4C a’r BBC, gan eu bod ill tri wedi cynnig cadw’r sefyllfa fel y mae. Yn Tu allan i’r Bocs, argymhellodd Pwyllgor y Cynulliad gadw ffrwd gyllido o DCMS “fel bod llinell uniongyrchol o atebolrwydd am wario i gynrychiolwyr etholedig yn parhau”.

Dywedodd S4C fod “angen diogelu lluosogrwydd cyllid”. Dywedodd fod hyn wedi bod yn “hollbwysig i annibyniaeth barhaus S4C ac i’n gallu i gyflawni ein cylch gorchwyl iaith Gymraeg”. Wrth ymateb i adolygiad DCMS, dywedodd y BBC ei bod yn cefnogi S4C o ran dymuniad y sianel i gadw lluosogrwydd yn ei ffynonellau cyllido.

Beth y dylai S4C ei wneud?

Mae cylch gwaith S4C – sy’n nodi’r hyn y dylai’r sianel ei wneud – yn y bôn, heb newid ers i’r sianel gael ei lansio ym 1982. Mae’n nodi y dylai’r sianel ddarparu “gwasanaethau rhaglenni teledu” y “bwriedir iddynt fod ar gael i’w derbyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru”.

Clywodd Pwyllgor y Cynulliad nad yw’r cylch gwaith hwn yn addas yn oes y cyfryngau digidol lle mae 45 y cant o wylwyr S4C y tu allan i Gymru. Mae S4C wedi dweud bod “angen uwchraddio cylch gorchwyl S4C, gan symud oddi wrth y cyfyngiadau daearyddol a theledu yn unig i alluogi darpariaeth Gymraeg aml-lwyfan ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt”. Cefnogodd y Pwyllgor y safbwynt hwn.

Mae adolygiad DCMS wedi cymeradwyo’r galwadau hyn, gan alw am i’r cylch gorchwyl gael ei uwchraddio i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein ac i ddileu’r cyfyngiadau darlledu daearyddol cyfredol.

Sut y dylai S4C gael ei threfnu?

Ar hyn o bryd mae S4C yn cael ei llywodraethu gan fwrdd anweithredol, sef Awdurdod S4C. Mae aelodau’r Awdurdod yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ôl ymgynghori â Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae Mr Williams yn cynnig: “a new unitary board that includes executives is required to provide the strong leadership needed to steer S4C through the challenges ahead”.

Mae hyn yn ategu barn Pwyllgor y Cynulliad, ond aeth Tu allan i’r Bocs ymhellach trwy argymell y dylai bwrdd unedol newydd gael ei ddiogelu “gan statud neu Siarter, sy’n debyg i fodel presennol y BBC”.

Faint o arian y dylai S4C ei gael?

Gellir dadlau mai’r hyn nad oedd neb am ei drafod yn ystod adolygiad DCMS oedd faint o arian cyhoeddus y dylai S4C ei gael. Dywed Mr Williams “as per the terms of reference, the review does not consider levels of funding for S4C”. Mae’r adroddiad, ac ymateb DCMS, hefyd yn dweud dim ynghylch beth fydd yn digwydd i’r arian y mae DCMS yn ei ddarparu i S4C ar hyn o bryd – dros £6 miliwn y flwyddyn – pan fydd y cyfan o gyllid y sianel yn dod o ffi’r drwydded.

Nid yw S4C wedi pennu ffigur penodol ar gyfer cyfanswm ei chyllideb, ond mae’n nodi bod ei chyllideb bresennol ar gyfer cynnwys yn annigonol, ac mae’n nodi bod angen £6 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i’w galluogi i gyflawni ei gwasanaethau o ran darlledu teledu a llwyfannau digidol ac er mwyn buddsoddi mewn cynnwys newydd ar lwyfannau digidol heb effeithio yn andwyol ar y lefelau ar fuddsoddir mewn cynnwys ar hyn o bryd. Y llynedd, nododd Prif Weithredwr S4C fod toriadau ariannol yn golygu bod 57 y cant o’r hyn a ddarlledir yn ailddarllediadau – y nod pan lansiwyd y sianel oedd 20 y cant – ac roedd o’r farn bod hyn yn rhy uchel.

Nododd Pwyllgor y Cynulliad: “Nid oedd unrhyw anghytuno rhwng y tystion bod cyllid S4C bellach yn annigonol ac mae angen ei gynyddu’n sylweddol”. Galwodd am setliad cyllido yn y dyfodol i’r sianel “yn seiliedig ar ddiffiniad clir o ofynion y gwasanaeth y disgwylir i S4C ei ddarparu a phennu cyllid ar lefel sy’n galluogi S4C i fodloni’r gofynion hyn yn llwyddiannus.”

Mae’r sgwrs anodd ynghylch faint y dylai’r sianel ei gael wedi cael ei gohirio am y tro.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Ffigurau o Adroddiadau Blynyddol a Chyfrifon S4C. Mae “incwm cyhoeddus” yn cyfeirio at grantiau blynyddol a dderbynnir gan DCMS ac, er 2013, cyllid o ffi’r drwydded.

*Mae’r cyfnod cyllido hwn yn cwmpasu’r pymtheng mis o 1 Ionawr 2013 i 31 Mawrth 2014. Yn flaenorol, adroddai S4C ar sail blwyddyn galendr. Symudodd i flwyddyn ariannol er mwyn i’w threfniadau adrodd gyfateb â rhai’r BBC, yn unol â’r berthynas ariannu newydd rhwng y ddau ddarlledwr. Mae’r ffigur ariannu eleni yn ffigur pro rata a ddarparwyd gan S4C.


graff yn dangos y gostyngiad yn incwm cyhoeddus y sianel ers 2010

Rhwng 2010 a 2016-17, gostyngodd arian cyhoeddus S4C o £101.6 miliwn i £81.3 miliwn. Roedd hyn yn doriad o 27 y cant mewn termau real.

Mae adolygiad DCMS yn cynnig symud i ffi’r drwydded ar gyfer y cyfan o arian cyhoeddus S4C o 2022-23, pan fydd y setliad nesaf ar gyfer ffi’r drwydded yn dechrau. Mae’n nodi mai dyma’r unig ffordd o sicrhau sefydlogrwydd o ran cyllido’r sianel.

Mae’r cynnig hwn yn mynd yn groes i farn Pwyllgor y Cynulliad, S4C a’r BBC, gan eu bod ill tri wedi cynnig cadw’r sefyllfa fel y mae. Yn Tu allan i’r Bocs, argymhellodd Pwyllgor y Cynulliad gadw ffrwd gyllido o DCMS “fel bod llinell uniongyrchol o atebolrwydd am wario i gynrychiolwyr etholedig yn parhau”.

Dywedodd S4C fod “angen diogelu lluosogrwydd cyllid”. Dywedodd fod hyn wedi bod yn “hollbwysig i annibyniaeth barhaus S4C ac i’n gallu i gyflawni ein cylch gorchwyl iaith Gymraeg”. Wrth ymateb i adolygiad DCMS, dywedodd y BBC ei bod yn cefnogi S4C o ran dymuniad y sianel i gadw lluosogrwydd yn ei ffynonellau cyllido.

Beth y dylai S4C ei wneud?

Mae cylch gwaith S4C – sy’n nodi’r hyn y dylai’r sianel ei wneud – yn y bôn, heb newid ers i’r sianel gael ei lansio ym 1982. Mae’n nodi y dylai’r sianel ddarparu “gwasanaethau rhaglenni teledu” y “bwriedir iddynt fod ar gael i’w derbyn yn gyfan gwbl neu’n bennaf gan aelodau’r cyhoedd yng Nghymru”.

Clywodd Pwyllgor y Cynulliad nad yw’r cylch gwaith hwn yn addas yn oes y cyfryngau digidol lle mae 45 y cant o wylwyr S4C y tu allan i Gymru. Mae S4C wedi dweud bod “angen uwchraddio cylch gorchwyl S4C, gan symud oddi wrth y cyfyngiadau daearyddol a theledu yn unig i alluogi darpariaeth Gymraeg aml-lwyfan ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt”. Cefnogodd y Pwyllgor y safbwynt hwn.

Mae adolygiad DCMS wedi cymeradwyo’r galwadau hyn, gan alw am i’r cylch gorchwyl gael ei uwchraddio i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein ac i ddileu’r cyfyngiadau darlledu daearyddol cyfredol.

Sut y dylai S4C gael ei threfnu?

Ar hyn o bryd mae S4C yn cael ei llywodraethu gan fwrdd anweithredol, sef Awdurdod S4C. Mae aelodau’r Awdurdod yn cael eu penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar ôl ymgynghori â Swyddfa Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae Mr Williams yn cynnig: “a new unitary board that includes executives is required to provide the strong leadership needed to steer S4C through the challenges ahead”.

Mae hyn yn ategu barn Pwyllgor y Cynulliad, ond aeth Tu allan i’r Bocs ymhellach trwy argymell y dylai bwrdd unedol newydd gael ei ddiogelu “gan statud neu Siarter, sy’n debyg i fodel presennol y BBC”.

Fain width=100 >


Pa effaith a gaiff Brexit ar economi Cymru?
13/04/2018, 9:00 am

13 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 2 Mawrth, rhoddodd y Prif Weinidog yr amlinelliad mwyaf manwl sydd wedi’i roi hyd yma ar sut berthynas y mae hi am i’r DU ei chael â’r Undeb Ewropeaidd ar ôl ymadael. Dywedodd y bydd ein mynediad at ein marchnadoedd ein gilydd yn llai nag y mae nawr. Mae hyn yn gyson â’i hawydd i adael Marchnad Sengl yr UE a’r Undeb Tollau, y mae’n barnu sy’n anghydnaws â “llinellau coch” trafodaethau Llywodraeth y DU.

Ar 23 Mawrth cytunodd y Cyngor Ewropeaidd ar ganllawiau ar y fframwaith ar gyfer y berthynas â’r DU yn y dyfodol. Nododd y rhain y byddai bod y tu allan i’r Undeb Tollau a’r Farchnad Sengl yn anochel yn arwain at anawsterau o ran masnach, gan gadarnhau eu bod yn anelu at gytundeb masnach rhydd eang gyda’r nod o gwmpasu pob sector a cheisio cynnal tariffau sero. Fodd bynnag, mae’r Cyngor yn nodi y bydd cytundeb o’r fath ond yn bosibl os yw’n cynnwys gwarantau cadarn sy’n sicrhau y bydd pawb yn cael eu trin yn yr un modd: h.y. nad yw’n rhoi mantais gystadleuol i’r DU drwy danseilio’r UE mewn meysydd penodol, gan gynnwys cystadleuaeth a chymorth gwladwriaethol, treth, a mesurau ac arferion cymdeithasol, amgylcheddol a rheoleiddiol.

Wrth i rywfaint o eglurder ddechrau dod i’r amlwg o ran natur y berthynas rhwng yr UE a’r DU yn y dyfodol, pa effaith y mae hyn yn debygol o’i chael ar economi Cymru?

Yn ddiweddar, mae’r Athro Perdikis o Brifysgol Aberystwyth wedi cwblhau cymrodoriaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd, gyda chyd-awdur, yr Athro Khorana o Brifysgol Bournemouth, yn ystyried effaith economaidd debygol gadael yr UE ar Gymru. Mae hyn yn dilyn cyhoeddi polisi masnach gadael yr UE gan Lywodraeth Cymru, a oedd wedi’i ategu gan waith a gomisiynwyd gan Uned Ymchwil Economi Cymru yn Ysgol Fusnes Caerdydd (Cyfnod Pontio’r UE a Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru). Mae’r dogfennau hyn yn rhoi syniad o faint o effaith y gall Brexit ei chael yng Nghymru, ac ar ba sectorau y byddai’r effaith fwyaf.

Mynediad at y farchnad yn erbyn rhwymedigaethau

Mae cytundebau masnachu gwahanol, o aelodaeth o Farchnad Sengl yr UE i Gytundeb Masnach Rydd fel y CETA rhwng yr UE a Chanada, yn cynrychioli graddfa lithro o ran mynediad at y farchnad, a rhwymedigaethau cyfatebol. Er enghraifft, nid yw Norwy yn aelod o’r UE, ond mae ei haelodaeth o’r Farchnad Sengl yn golygu ei bod yn derbyn rhyddid pobl i symud, ac yn gwneud cyfraniadau sylweddol i gyllideb yr UE. Nid oes gan Canada yr un o’r rhwymedigaethau hyn, ond yn unol â hynny nid oes gan y wlad yr un mynediad at y Farchnad Sengl: nid yw’r cytundeb yn cynnwys gwasanaethau, a oedd yn cyfrif am 35 y cant o allforion Cymru i’r UE yn 2016.

Mae ymdrechion gwahanol i fodelu effeithiau economaidd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd felly wedi dewis pwyntiau gwahanol ar y raddfa lithro hon, ac wedi amcangyfrif effaith pob un ar economi’r DU. Dewisodd Perdikis a Khorana dri senario yr oeddent yn eu hystyried yn gydnaws â’r “llinellau coch” a nodwyd gan Lywodraeth y DU (rheoli mewnfudo; gallu’r DU i wneud ei chytundebau masnach rydd ei hun; annibyniaeth o Lys Cyfiawnder Ewrop; a rhoi terfyn ar gyfraniadau sylweddol i gyllideb yr UE) gan edrych ar eu heffaith debygol ar economi Cymru:

Er y bydd y berthynas rhwng y DU a’r UE yn debygol o fod yn wahanol i unrhyw berthynas bresennol rhwng gwlad trydydd parti a’r UE, gellir defnyddio’r pwyntiau hyn i nodi effaith debygol y berthynas newydd hon ar economi Cymru, ar sail faint o debygrwydd sydd rhyngddi â’r perthnasoedd presennol neu ddamcaniaethol hyn. Mae eu hadroddiad yn amlinellu’n fanwl amcangyfrifon o ganlyniadau y sefyllfaoedd hyn o ran economi Cymru gan ddefnyddio dangosyddion fel cynnyrch domestig gros (GDP), graddfeydd masnachu, a chyflogaeth.

Mae bargen yn well na dim bargen

Daw Perdikis a Khorana i’r casgliad:

The scenario simulations reveal that Brexit will lead to the imposition of costs, either through the imposition of tariffs or the loss of preferential access to the single market. The impact on the Welsh economy will be felt via reductions in GDP, GDP per capita, trade, investment and employment. The least costly outcome for Wales is if the status quo can be held to for as long as possible. The next best or next least worst is the conclusion of a CETA type agreement by the EU. The most costly is a Brexit based on WTO rules.

Mae’r canlyniadau hyn, mae nhw’n datgan, yn cyd-daro’n dda â theori economaidd a gwaith empirig a wnaed gan y rhan fwyaf o ymchwilwyr eraill. Bydd symud o sefyllfa o fasnach gymharol rydd, fel sydd gan y DU â’r UE ar hyn o bryd, i un sy’n cynnwys mwy o rwystrau yn anochel yn arwain at golledion o ran lles economaidd. Mae’r farn hon yn gyson â phapur briffio Whitehall a oedd yn dadansoddi effaith gadael yr UE, ac yn rhagweld y byddai amrywiaeth o golledion cynnyrch domestig gros (GDP) yn deillio o Brexit y pellaf y mae’r DU yn symud o’r lefel o fynediad sydd ganddi at y Farchnad Sengl ar hyn o bryd. Mae Perdikis a Khorana yn nodi bod trefn maint y colledion cynnyrch domestig gros a ragwelir ganddynt yn sylweddol llai na’r rhai a ragwelir mewn rhagolygon prif ffrwd eraill oherwydd bod eu methodoleg yn canolbwyntio ar set gyfyngedig o effeithiau Brexit. Pe bai ein hastudiaeth yn cynnwys yr agweddau hyn, maent yn datgan, mae’n debygol y byddai’r colledion a nodwyd gennym wedi bod yn debycach o lawer i’w canlyniadau nhw.

Y farn gyffredinol yw bod y ffurfiau uchod o ymadael â’r UE yn gyfystyr â chyfyngu ar y difrod. Mae hyn wedi arwain at alwadau, yn enwedig gan yr ‘Economists for Free Trade and Policy Exchange’, i’r DU gael gwared â’i thariffau yn unochrog, er mwyn lleihau costau mewnforion ac i hybu cystadleurwydd y DU. Mae Perdikis a Khorana yn awgrymu bod nifer o broblemau yn gysylltiedig â’r cynnig hwn, gan gynnwys camddealltwriaeth o’r berthynas rhwng rheoliadau’r UE a phrisiau. Ar ben hynny, byddai dull gweithredu o’r fath yn debygol o arwain at ddirywiad o ran gweithgynhyrchu ac amaethyddiaeth yn y DU, y mae awduron yr adroddiad yn nodi a fyddai’n cael effaith andwyol ar ddosbarthiad incwm, gydag effeithiau economaidd a chymdeithasol ar Gymru a allai fod yn yn ddifrifol iawn yn y tymor byr i’r tymor canolig.

Polisi masnach Llywodraeth Cymru: mynediad llawn a dirwystr at y Farchnad Sengl

Mae papur Polisi Masnach Llywodraeth Cymru yn ailadrodd ei alwad am fynediad llawn a dirwystr at Farchnad Sengl Ewrop ac am aros yn Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd o leiaf yn y dyfodol agos. Mae Perdikis a Khorana yn nodi bod hyn yn gyson â’u gwaith ymchwil sy’n awgrymu y byddai colledion economaidd yn deillio o golli mynediad at y Farchnad Sengl.

Byddai’r model a ffefrir gan Lywodraeth Cymru yn atal y DU rhag cael polisi masnach annibynnol. Fel aelod o Undeb Tollau’r Undeb Ewropeaidd, byddai’n rhaid iddo gael yr un gyfres o dariffau â’r UE, ac ni allai gytuno’n derfynol ar gytundebau masnach yn annibynnol. Yn y modd hwn, mae’n croesi un o linellau coch Llywodraeth y DU, ac felly ni chaiff ei ddadansoddi’n uniongyrchol yn adroddiad Perdikis a Khorana. Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai angen i unrhyw awgrym y gallai masnach rydd â gwledydd trydydd parti wneud yn iawn am golli mynediad at y Farchnad Sengl gael ei gefnogi gan dystiolaeth, a hyd yma nid oes dim tystiolaeth wedi’i gyhoeddi gan Lywodraeth y DU i gefnogi’r safbwynt hwn.

Sectorau sydd mewn perygl yng Nghymru

Mae adroddiad gan Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd sy’n canolbwyntio ar y Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru yn sgîl Brexit yn cefnogi papur polisi Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd yr ymchwil i raddau helaeth trwy lens Cwmnïau Angori a Chwmnïau Pwysig Rhanbarthol (mae “Cwmnïau Angori” yn gwmnïau rhyngwladol sydd â phresenoldeb sylweddol yng Nghymru), ac yn mynd i’r afael â chwestiynau gan gynnwys:

Roedd adroddiad Prifysgol Caerdydd yn cynnwys y tabl canlynol, sy’n crynhoi’r risgiau sy’n gysylltiedig â gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer y gwahanol sectorau yn economi Cymru:

Crynodeb o sut y cafodd gwahanol sectorau eu graddio o ran gwahanol agweddau ar risg

Dywed yr adroddiad mai ychydig o ymatebwyr a oedd yn gallu rhoi sylwadau ar unrhyw gyfleoedd newydd sy’n dod i’r amlwg o ganlyniad i Brexit caled a masnachu yn ôl rheolau Sefydliad Masnach y Byd.

Ar 27 Mawrth cyhoeddodd Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y pwyllgor sy’n monitro’r broses Brexit) yn cyhoeddi ei adroddiad ar berthynas Cymru â’r UE yn y dyfodol. Nododd hyn fod “Mae’n rhaid i’r berthynas â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol flaenoriaethu masnach ddirwystr, yn rhydd o rwystrau tariff a rhwystrau nad ydynt yn ymwneud â thariffau ar ôl Brexit“. Mae’r DU yn bwriadu gadael yr UE mewn llai na blwyddyn. Wrth i ni gael mwy o eglurder ar yr hyn y gall Brexit ei olygu a pha effaith y gallai gael, bydd gwleidyddion yn y Cynulliad yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a all i sicrhau Brexit sy’n gweithio i Gymru.


Erthygl gan Robin Wilkinson, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Ffynhonnell: Ysgol Fusnes Prifysgol Caerdydd,
Rhagolygon Economaidd ar gyfer Cwmnïau Mawr a Chanolig yng Nghymru.


Y Grant Datblygu Disgyblion – y camau nesaf
11/04/2018, 12:03 pm

11 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ddydd Mawrth 17 Ebrill, disgwylir i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, wneud datganiad yn y Cyfarfod Llawn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru (PDG) ac yn amlinellu’r camau nesaf ar ei gyfer. Ar hyn o bryd, mae’r PDG hefyd yn destun ymchwiliad gan un o bwyllgorau’r Cynulliad (y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg) i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol. Yn ddiweddar, rhoes Kirsty Williams dystiolaeth ysgrifenedig (9 Mawrth, PDF 1.23MB) a thystiolaeth lafar (22 Mawrth) i ymchwiliad y Pwyllgor.

Un o bolisïau addysg blaenllaw Llywodraeth Cymru yw’r PDG a’i nod yw mynd i’r afael ag effaith amddifadedd ac anfantais ar ganlyniadau addysgol. Mae gan y PDG gyllideb flynyddol o £94 miliwn, sef 6 y cant o gyllideb refeniw Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg (ond dylid nodi bod cyllid craidd ar gyfer ysgolion yn dod o’r gyllideb ar gyfer Llywodraeth Leol ac felly mae’r gyfran yn llai o gyfrif hwnnw hefyd). Newidiodd Ysgrifennydd y Cabinet enw’r PDG o’r ‘Grant Amddifadedd Disgyblion’ i’r ‘Grant Datblygiad Disgyblion’ ym mis Ebrill 2017, ond cadarnhaodd y byddai’n cadw’r un pwyslais ar ddisgyblion o gefndiroedd difreintiedig (yn ei hateb i WAQ73368 ym mis Ebrill 2017 ac yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 14 Mehefin 2017 (PDF 340KB)).

Pwy sy’n gymwys ar gyfer y PDG a faint sy’n cael ei dalu?

Cyflwynwyd y Grant Datblygu Disgyblion yn y flwyddyn ariannol 2012-13. Mae’n darparu arian ychwanegol i ysgolion yn seiliedig ar nifer y disgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim (disgyblion PYDd) ar eu cofrestr. Telir £1,150 fesul disgybl PYDd ym mlynyddoedd 1-11, sy’n cyfrif am £77 miliwn o’r gyllideb o £94 miliwn.

Yn 2015-16, estynnwyd y PDG i’r Blynyddoedd Cynnar (3-5 oed, hyd at a chan gynnwys plant dosbarth Derbyn) ar sail £300 fesul plentyn cymwys. Cododd hyn i £600 yn 2017-18, gan godi i £700 ar gyfer 2018-19. Dyrennir oddeutu £9.5 miliwn i PDG y Blynyddoedd Cynnar.

Mae Estyn wedi adrodd (PDF 383KB) fod tua dwy ysgol o bob tair yn defnyddio’u dyraniadau PDG yn effeithiol, a’r cyd-destun i hynny yn ôl yr arolygiaeth yw bod hyn yn cyfateb yn fras i nifer yr ysgolion lle mae’r arweinyddiaeth yn gyffredinol yn dda. Ceir rhywfaint o ddadansoddi ar gyrhaeddiad disgyblion PYDd yn ddiweddarach yn yr erthygl hon.

Mae’r PDG hefyd yn daladwy ar gyfer plant PYDd sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol, ac mae hynny’n costio ychydig dros £1 filiwn.

Yn olaf, mae’r Grant hefyd yn darparu arian i gonsortia rhanbarthol i’w wario ar blant sy’n derbyn gofal a phlant mabwysiedig, eto ar sail £1,150 y plentyn. Dyrennir £4.6 miliwn i’r pedwar consortiwm yn 2018-19 ar sail 4,037 o blant a gofrestrwyd fel rhai sy’n derbyn gofal.  Mae gwefan Llywodraeth Cymru yn rhoi manylion y dyraniadau PDG yn 2018-19.

Bellach mae gan bob consortiwm gynghorydd strategol ar gyfer y Grant, ond mae tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol yn awgrymu mai dim ond yn ddiweddar y datblygwyd y dull strategol ar gyfer y rhan o’r PDG sy’n ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal. Hefyd, tynnodd sylw at y cyfyngiadau o ran targedu’r PDG at blant mabwysiedig yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod am weld gwelliant yn y maes hwn ac mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi disgrifio’r ystadegau diweddaraf ar gyfer cyrhaeddiad plant sy’n derbyn gofal yn rhai hynod siomedig.

Ym mis Tachwedd 2017, cafodd ICF Consulting ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru i werthuso’r PDG ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, a disgwylir i’r adroddiad gael ei gyhoeddi cyn toriad haf 2018.

Beth yw effaith y Grant ar gyrhaeddiad disgyblion PYDd?

Mae’r bwlch rhwng cyrhaeddiad disgyblion PYDd a chyrhaeddiad disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, mae gwerthusiad o’r PDG gan Ipsos MORI a WISERD (a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr 2017), wedi dangos i’r duedd hon ddechrau cyn i’r Grant gael ei gyflwyno, felly mae’n anodd dirnad faint y gellir ei briodoli’n uniongyrchol i’r arian grant ei hun. Mae data a dadansoddiad ar gael yn ein Papur Briffio Ymchwil, Data Cyrhaeddiad Cyfnod Allweddol 4, ond rhoddir crynodeb isod hefyd.

Yn ôl y prif fesur perfformiad a ddefnyddiwyd gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn – trothwy cynwysedig Lefel 2 (5 neu fwy TGAU gradd A*-C, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg, neu gymhwyster galwedigaethol cyfatebol) – lleihaodd y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion PYDd a disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim o 33.9 o bwyntiau canran yn 2010 i 31.2 o bwyntiau canran yn 2016. O gyfrif unrhyw 5 TGAU gradd A*-C (mesur trothwy Lefel 2), lleihaodd y bwlch o 34.3 o bwyntiau canran yn 2010 i 17.4 o bwyntiau canran yn 2016.

Fodd bynnag, aeth y bwlch cyrhaeddiad rhwng disgyblion PYDd a disgyblion nad ydynt yn cael prydau ysgol am ddim yn fwy yn 2017 wedi blynyddoedd o gynnydd yn ei leihau. Ar gyfer trothwy cynwysedig Lefel 2, aeth yn 32.4 o bwyntiau canran, ac ar gyfer trothwy Lefel 2 bu iddo bron â dyblu i 32.3 o bwyntiau canran. Yn gyffredinol, ystyrir bod newidiadau Llywodraeth Cymru i’r ffordd y cofnodir mesurau trothwy Lefel 2 a throthwy cynwysedig Lefel 2 (gyda llai o gydnabyddiaeth o gymwysterau galwedigaethol) wedi effeithio ar ddisgyblion PYDd yn fwy na disgyblion eraill.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet wrth y Pwyllgor ar 22 Mawrth 2017:

So, if you look at it—with the usual caveats about whether you can make direct comparisons on level 2 plus between the exams the year before and the exams that we had last summer—on the face of it, the gap has increased. (…)

I think there’s no one answer to why free-school-meal children were not so resilient last year. We continue to have discussions with Qualifications Wales to get a better understanding of this. At my next ministerial policy board, in May, we’ll be doing a deep dive into this particular subject.

Y PDG ar gyfer disgyblion PYDd mwy abl a thalentog

Cydnabuwyd ers tro bod angen i’r system addysg Gymraeg wella’r ffordd y mae’n ymestyn disgyblion mwy abl a thalentog a gwella’r gefnogaeth iddynt gyflawni eu potensial a sicrhau’r graddau gorau. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyhoeddi y caiff y Rhwydwaith Seren ei ehangu i gynnwys disgyblion TGAU yn ogystal â £3 miliwn o gyllid i gefnogi disgyblion mwy abl a thalentog.

O ran y PDG, mae Kirsty Williams wedi dweud eto wrth ysgolion bod y grant ar gyfer pob disgybl cymwys yn hytrach nag i’r rhai yn unig lle mae risg o gyrhaeddiad isel. Yn ei llythyr at ysgolion (PDF 206KB) i gyd-fynd â’r cyhoeddiad am ddyraniadau PDG 2018-19, ysgrifennodd Kirsty Williams:

Yr wyf am fod yn glir bod y GDD yn cefnogi pob dysgwr cymwys gan gynnwys ein dysgwyr mwyaf galluog.  I fod yn wirioneddol deg a rhagorol mae’n rhaid i ni sicrhau bod pob disgybl yn cael eu cefnogi i gyrraedd eu potensial.

Mae hyn yn dilyn tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol – yn cynnwys tystiolaeth gan WISERD, a arfarnodd y rhaglen ar y cyd, a chan Estyn – yn nodi bod ysgolion yn colli’r gwahaniaeth rhwng anfantais a chyrhaeddiad isel a bod defnydd annigonol o’r PDG ar gyfer disgyblion PYDd sydd â’r potensial i gael graddau uchaf. Cyfeiriodd yr Athro Chris Taylor o WISERD at ‘blurring of the targeted intervention to mitigate disadvantage with the wider school improvement funding and grants and priorities’, gan egluro:

Consequently, schools were using their money to raise low attainment, not necessarily raising the attainment of all children who are from disadvantaged backgrounds, which is kind of a fundamental misunderstanding of the conceptual basis of the policy. (…)

The point of the policy was to mitigate the structural inequalities that some of these children experienced living in poverty. It doesn’t matter what their levels of attainment are; they can be high-achieving pupils, for all I care. They also ought to receive the benefit, because the argument is that they should be doing better than where they are now. And I think schools have not really grasped that, partly again because there are other priorities in the school, particularly for many schools about raising levels of attainment.

Ysgrifennodd Estyn mai ‘ychydig iawn’ o ysgolion sydd wedi defnyddio’r PDG i gefnogi disgyblion dan anfantais sy’n fwy galluog a phrin iawn y mae hyn yn agwedd ganolog ar gynlluniau PDG ysgolion. Dywedodd Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, Meilyr Rowlands, wrth y Pwyllgor:

Felly, os oes yna garfan o ddisgyblion sydd yn colli mas ar hyn, y plant mwy galluog sydd yn derbyn prydau bwyd am ddim yw’r rheini. Mae yna nifer o resymau am hyn, rwy’n meddwl. Un ohonyn nhw ydy bod yna dal rhywfaint o deimlad taw plant llai galluog ddylai fod yn cael y grant yma, plant sy’n tangyflawni.  Nid yw’r ysgolion ddim bob tro yn adnabod tangyflawniad y plant mwy galluog. Maen nhw’n ymddangos fel eu bod nhw’n gwneud yn o lew, ond petaen nhw’n cael mwy o gymorth, bydden nhw’n gwneud hyd yn oed yn well.

Mwy o hyblygrwydd ac ymrwymiad ar gyfer y ddwy flynedd nesaf

Dau o’r themâu eraill sy’n codi o ymchwiliad y Pwyllgor i Gyllid wedi’i Dargedu i Wella Canlyniadau Addysgol, y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio mynd i’r afael â hwy yn y cyfamser, yw:

Ar y pwynt cyntaf, mae llythyr Ysgrifennydd y Cabinet at ysgolion (Mawrth 2018) (PDF 206KB) yn nodi, er mwyn darparu ‘hyblygrwydd’, y dylid defnyddio PDG i gefnogi disgyblion sydd wedi bod yn ddisgyblion PYDd yn naill neu’r llall o’r ddwy flynedd flaenorol. Fodd bynnag, nid yw’n ymddangos y bydd ysgolion yn cael cynnydd yn y dyraniadau PDG i gyfrif am y garfan fwy o ddisgyblion y disgwylir iddynt ddefnyddio’r PDG i’w cefnogi. Bydd dyraniadau PDG yn parhau i gael eu seilio ar gyfrifiadau blwyddyn unigol o gyfanswm disgyblion PYDd ysgolion.

Mae’r Premiwm Disgyblion yn Lloegr, sy’n rhaglen debyg i’r PDG yng Nghymru, yn gweithredu Model ‘Ever 6’ sy’n golygu y bydd disgyblion yn gymwys am y grant os ydynt wedi bod yn disgybl PYDd ar unrhyw adeg yn y chwe blynedd diwethaf. Ymddengys i Ysgrifennydd y Cabinet ddiystyru’r posibilrwydd o ddefnyddio model tebyg yng Nghymru, gan nodi y byddai’n costio tua £40 miliwn ychwanegol, sydd bron hanner y gyllideb bresennol ar gyfer PDG.

O ran yr ail thema, sef rhoi mwy o sicrwydd i ysgolion, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau y bydd trefniadau presennol y PDG ar waith ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, 2018-19 a 2019-20. Mae Ysgrifennydd y Cabinet a’r Prif Weinidog eisoes wedi rhoi ymrwymiad ar y cyd i’r PDG tan ddiwedd y Cynulliad hwn, a dylai hyn roi sicrwydd i ysgolion o leiaf y cedwir y lefelau presennol o £1,150 a £700.

Sut i ddilyn datganiad Ysgrifennydd y Cabinet

Trefnwyd datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a chwestiynau gan Aelodau ar y datganiad ar gyfer dydd Mawrth 17 Ebrill 2018. Darlledir y Cyfarfod Llawn ar Senedd TV a bydd trawsgrifiad ar gael ar wefan Cofnod Trafodion y Cynulliad.


Erthygl gan Michael Dauncey, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru


A oes ffordd anodd yn wynebu Cludiant Cymunedol?
10/04/2018, 2:15 pm

10 Ebrill 2018

View this post in English | Darllenwch yr erthygl yma yn Saesneg

Ar 8 Chwefror 2018, cyhoeddodd Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU (DfT)  ymgynghoriad  newidiadau i ganllawiau am drwyddedau adran 19 a 22 a ddefnyddir gan weithredwyr cludiant cymunedol (CC) yn yr Alban, Lloegr a Chymru.  Er y gallai hyn ymddangos yn bwnc technegol neu aneglur, mae gweithredwyr CC a Llywodraeth Cymru yn pryderu y gallai newidiadau effeithio’n ddifrifol ar allu’r sector i ddarparu gwasanaethau. Maent yn ofni y gallai hyn gael goblygiadau difrifol i ddefnyddwyr gwasanaeth agored i niwed ac ynysig.

Beth yw cludiant cymunedol a pha wasanaethau y mae’n eu darparu?

Mae gwasanaethau CC yn wasanaethau dielw hygyrch a hyblyg sydd fel arfer yn cael eu rhedeg gan y gymuned ar gyfer y gymuned. Mae’r sector yn darparu amrywiaeth o wasanaethau megis cynlluniau ceir cymunedol, gwasanaethau deialu drws-i-ddrws, gwasanaethau bws cymunedol a chludiant grŵp, sy’n diwallu anghenion nad ydynt yn cael eu diwallu gan gludiant cyhoeddus.

Er bod gofyn i weithredwyr bysiau a choetsys masnachol feddu ar drwydded gweithredwr Cerbyd Gwasanaeth Cyhoeddus (PSV), mae adrannau 18 i 23 o’r Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn eithrio gweithredwyr CC o’r gofyniad hwn. Mae gweithredwyr CC yn gallu gweithredu gan ddefnyddio dwy drwydded yn hytrach na thrwyddedau gweithredwr PSV; ni ellir defnyddio trwyddedau adran 19 i gludo aelodau o’r cyhoedd, tra gall deiliaid trwyddedau adran 22 weithredu gwasanaethau “bws cymunedol” a chludo aelodau o’r cyhoedd yn gyffredinol.

Cyhoeddodd Cymdeithas Cludiant Cymunedol Cymru (CTA) ei adroddiad State of the Sector diweddaraf (PDF 3.43MB) yn 2014. Dangosodd hyn fod 140,000 o unigolion yng Nghymru a 3,500 o grwpiau wedi’u cofrestru i ddefnyddio gwasanaethau CC a ddarperir gan tua 100 o sefydliadau. Mae’n dangos bod y galw am wasanaethau CC yn cynyddu, wrth i filltiroedd teithwyr gynyddu o 4.3 i 6m rhwng 2010 a 2013, a theithiau teithwyr o 1.2m i 2m yn yr un cyfnod.

Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu’r rôl y mae CC yn ei chwarae wrth ddarparu mynediad at wasanaethau, yn enwedig ar gyfer pobl ag anableddau, yr henoed a’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Mae hefyd yn awgrymu bod gan CC rôl bwysig a chynyddol wrth gefnogi mynediad at wasanaethau iechyd gyda chludiant cleifion nad ydynt yn rhai brys yn cael ei ddisgrifio fel “y maes twf mwyaf arwyddocaol” er 2010.

Felly beth sy’n newid?

Mae Rheoliad UE EC1071/2009 yn sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer yr holl weithredwyr trafnidiaeth ffyrdd p’un a ydynt yn gwneud elw ai peidio. Mae’r rheoliad yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr sy’n cludo teithwyr sy’n talu ffioedd i gyflogi gyrwyr sydd â chymwysterau proffesiynol, ymgysylltu â rheolwr cludiant proffesiynol a chael trwyddedau gweithredwyr proffesiynol. Fodd bynnag, mae hefyd yn sefydlu tri eithriad rhag y gofynion hyn, gan gynnwys lle mae gweithredwyr yn ymwneud â gwasanaethau cludiant teithwyr ar y ffyrdd at ddibenion anfasnachol yn unig.

Hyd yn hyn, mae’r DfT, sy’n gyfrifol am ddatblygu a chanllawiau CC, wedi dehongli “nid er elw” ac “anfasnachol” yn yr un modd. Fodd bynnag, yn dilyn heriau cyfreithiol gan weithredwyr bws masnachol ac ymchwiliad gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) i weithredwr CC sy’n darparu contractau awdurdod lleol,  ysgrifennodd y DfT at bob corff cyhoeddi trwyddedau ym mis Gorffennaf 2017  (PDF 235KB) i ddweud na ellid ystyried bod y rhanddirymiad anfasnachol yn gymwys dim ond oherwydd bod y gweithredwr yn elusen gofrestredig ac felly ei wahardd rhag dosbarthu ei elw.

Er bod y llythyr yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd y gweithredydd dan sylw wedi cydymffurfio â Rheoliad yr UE, ymddengys fod hyn yn bennaf oherwydd nad oedd  canllawiau DfT ar drwyddedau adran 19 a 22 yn adlewyrchu cyfraith yr UE (neu yn ôl y DfT, nad oedd wedi cadw i fyny â’r datblygiadau hyn). Daeth y llythyr i’r casgliad:

I appreciate that there has historically been guidance that may have provided an inaccurate indication of the conditions and criteria for operating services under Section 19 and 22 permits, and that, as a result, there may be some organisations that are relying on such permits inappropriately. Such operators will now need to take action to bring their services into compliance with legal requirements.

Sut y gallai’r newidiadau arfaethedig effeithio ar y sector?

Dywedodd llythyr y DfT ei fod yn bwriadu ymgynghori ar newidiadau i ganllawiau a diwygiadau i Ddeddf Trafnidiaeth 1985 yn ystod yr hydref 2017. Cafodd hyn ei oedi tan y gwanwyn 2018 er mwyn ystyried Ymchwiliad Pwyllgor Dethol ar Gludiant Tŷ’r Cyffredin, a adroddodd ym mis Rhagfyr 2017.

Er bod yr ymgynghoriad yn egluro y dylai’r sector CC barhau i gael trefn drwyddedu ar wahân, a fydd yn bendant yn cynnig rhywfaint o sicrwydd, mae’n debyg bod newidiadau sylweddol ar y ffordd. Mae’r ymgynghoriad yn cynnig dau newid:

Mae’r ddogfen ymgynghori yn amlinellu dull arfaethedig at sefydlu pryd y gallai gweithredwyr CC ddibynnu ar yr eithriad “anfasnachol” a ddefnyddir gan y rhan fwyaf o ddeiliaid trwyddedau ar hyn o bryd. Yn gryno, y rhain yw:

Cynhyrchodd y CTA yng Nghymru grynodeb o’r dystiolaeth a gyflwynwyd i Bwyllgor Dethol ar Gludiant Tŷ’r Cyffredin gan weithredwyr CC Cymru. Awgrymodd gweithredwyr y gallai’r newidiadau arwain at wasanaethau’n dirwyn i ben o ystyried cost sicrhau trwydded gweithredwr PSV a’r ffaith y gallai gofynion ychwanegol y gyfundrefn hon atal gwirfoddolwyr. Mae ansicrwydd a dryswch ymhlith gweithredwyr hefyd ynghylch sut y byddai newidiadau yn berthnasol yn y tymor byr. Mae’r crynodeb hefyd yn tynnu sylw at sut mae awdurdodau lleol wedi annog gweithredwyr CC i wneud cais am gontractau awdurdodau lleol ar adeg pan fo cymorth grant ehangach wedi “lleihau’n ddramatig”.  Yn olaf, pwysleisiodd y dystiolaeth yr effaith bosibl ar bobl agored i niwed ac ynysig pe byddai gwasanaethau CC yn cael eu lleihau.

A yw Llywodraeth Cymru wedi gweithredu?

Mewn tystiolaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Dethol ar Gludiant  cyhoeddodd Jesse Norman AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Llywodraeth y DU dros Gludiant, £250,000 i ariannu cyngor i weithredwyr y mae angen iddynt newid i drwydded gweithredwr PSV.  Fodd bynnag, nid oedd yn glir a oedd hyn yn cynnwys Cymru.

Holwyd Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru gan Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau’r Cynulliad ar 17 Ionawr 2018 am ei gynlluniau i gefnogi’r sector trwy’r cyfnod pontio. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet y gallai’r cynigion gael effaith niweidiol iawn ar ddarparwyr cludiant cymunedol ledled Cymru.  Tynnodd sylw at y rôl bwysig y mae CC yn ei chwarae, ac yn wahanol i wasanaethau masnachol, mae nifer y teithwyr CC yn cynyddu.  Gan nodi ansicrwydd ynghylch a fyddai arian Llywodraeth y DU yn berthnasol i Gymru, disgrifiodd hyn fel rhywbeth na fyddai’n cael fawr o effaith o gwbl ar draws Cymru a Lloegr os yw’n berthnasol i’r ddwy wlad.  Daeth i’r casgliad a ganlyn:

This is something that must be addressed by the UK Government, given that it’s a reserved matter and it should be addressed with adequate resource for Wales as well. As it emanates largely from vehicle standards, it’s a resolved matter. It’s something that I would wish to see devolved if at all possible, but we already support bus services with the bus services support grant to the tune of £25 million a year. Changes of this type that emanate from the UK Government should be resourced and should be delivered in such a way as to not disadvantage communities in Wales, or the community transport providers. So, I’d expect adequate financial resource to be made available.

Gan ysgrifennu at y Pwyllgor yn dilyn y sesiwn dywedodd fod y Llywodraeth wedi cymryd camau i sicrhau bod yr effaith bosibl ar y sector yng Nghymru yn cael ei hystyried yn llawn gan y DfT.

Trafododd y Cynulliad y mater ar 21 Mawrth. Yn ystod y ddadl, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet fod angen eglurder o hyd ar faint y gall Cymru ddisgwyl ei gael gan Lywodraeth y DU i liniaru effaith newidiadau. Dywedodd fod angen ystyried yr effaith bosibl yn ofalus iawn:

Mae cyfundrefn y gweithredwyr gwasanaethau cyhoeddus yn fwy trwyadl na’r gyfundrefn drwyddedu, ac mae’n iawn iddi fod felly. Ond nid yw gorfodi gweithredwyr i ysgwyddo’r costau ychwanegol posibl hyn pan fo’r manteision i deithwyr yn fach iawn yn ateb ymarferol. Rhaid caniatáu i weithredwyr redeg gwasanaethau i deithwyr o dan y gyfundrefn drwyddedu fwyaf priodol.

Pwysleisiodd ei fod yn gweithio gyda’r CTA i ddatblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith bosibl negyddol ar wasanaethau a ddarperir o dan y gyfundrefn trwyddedau cludiant cymunedol.

Unwaith eto, pwysleisiodd y darperir £25m yn flynyddol i’r sector cludiant bysiau a chymunedol trwy Grant Cefnogi Gwasanaethau Bws Llywodraeth Cymru – y mae 5% ohono wedi’i neilltuo ar gyfer CC – a bod y lefel hon o gyllid wedi’i chadarnhau ar gyfer y ddwy flynedd nesaf hyd at 2019-20. Fodd bynnag, mae’n werth nodi bod y ffrwd ariannu hon wedi cael ei chadw ar £25m ers 2013-14 sy’n cynrychioli gostyngiad mewn termau real ar adeg pan fo costau’n cynyddu a chyllid refeniw awdurdodau lleol ar gyfer gwasanaethau hefyd dan bwysau sylweddol.


Erthygl gan Andrew Minnis, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru