gwefan.org

 

Trydaru

 

Draig Goch


Dewiswch o 32 o Ffrydiau Cymraeg

Gwersyll yr Urdd, Caerdydd
Cardiff City Cymraeg
Cymdeithas yr Iaith
Blogiadur
maes-e
Golwg RSS
Golwg360 Trydar
Haciaith
Menter Caerdydd Trydar
Cyngor Caerdydd Trydar
Pentyrch
Comisiynydd y Gymraeg
Castell-nedd Port Talbot
Fideo Bob Dydd
S4C arlein
Rondo
BBC Newyddion Cymru
Radio Cymru
Plaid Cymru
Lleol.Net
Y Lolfa
Blogiau Daily Post
Recordiau Sain
Menter a Busnes
Iaith Cyf
Trydar y Cymry Prif Newyddion
Trydar y Cymry
Leighton
Cyngor Rhondda Cynon Taf
Adran Addysg
Pigion Cynulliad
Ffrwti


blogiadur
clegar y cymry

Is etholiad Saron, Sir Gaerfyrddin a Chyngor Tref Pontardawe, Castell Nedd
19/07/2018, 11:08 pm


Dydd Sul, 22 Gorffennaf 2018
19/07/2018, 10:54 pm
Darlleniad y Dydd:  Ioan 13: 12-16 (BCND:tud.118 / BCN:tud.108) Croeso cynnes i chi i’r oedfaon heddiw ac i rifyn olaf Llais Bro Aled tan fis Medi. Dyma felly gyfle gwych i mi ddymuno’n dda i bawb fydd yn mynd i lawr i’r Sioe yn Llanelwedd ac i bob un fydd yn mwynhau mymryn o wyliau dros yr wythnosau nesaf, mwynhewch! Hoffwn hefyd ddiolch o galon i chi am bob cymorth a chyfraniad at waith ein heglwysi dros y tymor diwethaf, ac yn enwedig felly i Mair a Gwion am eu holl lafur gwerthfawr fel tîm gweinidogaethol. A pheidiwch ag anghofio am yr oedfa arbennig fore Sul nesaf yng Nghefn Meiriadog lle cawn gyfle i ddiolch i Gwion am ei holl waith fel cynorthwy-ydd ym Mro Aled. Wedi’r oedfa – barbeciw, gan obeithio nad yw pawb wedi diflasu arnynt erbyn hyn! Ydych chi’n cofio’r teimlad ar ddiwedd blwyddyn ysgol? Mae’n debyg fod y rhan fwyaf o’r cyffro yn dod o sylweddoli’r fath ryddid oedd i’w gael i wneud pethau a mynd i lefydd na fyddech fel arfer yn ymweld â nhw. Ond wrth gwrs, nid penrhyddid llwyr oedd hyn gan fod tasgau i’w gwneud a bloeddiadau i godi o’r gwely yn parhau hyd yn oed yn ystod y gwyliau. Ac wrth ddychwelyd i’r ysgol roedd digon o gyfle i siarad hefo ffrindiau a rhannu wrthynt yr hyn fu’n digwydd ers i chi gyfarfod ddiwethaf. Meddyliwch mor bwysig i Gristnogaeth yw’r ddwy agwedd yma – rhyddid a rhannu newyddion da gydag eraill. Mae’r Testament Newydd yn gyson yn atgoffa Cristnogion fod Iesu wedi marw er mwyn eu rhyddhau o gaethiwed pechod ac i fyw bywyd o gyflawnder wrth ddilyn eu Gwaredwr. ‘I ryddid y rhyddhaodd Crist ni.’ (Galatiaid 5:1) Ond nid yw hyn yn golygu penrhyddid. Nid yw Crist wedi aberthu ei hun er mwyn i Gristnogion ddilyn eu chwantau pechadurus heb falio dim am y canlyniadau. Y bywyd newydd y mae Duw am i’w blant ei fwynhau yw’r rhyddid i garu a gwasanaethu ein gilydd (Galatiaid 5:13 Beibl.net). Y cyfle hwnnw i wasanaethu Duw ac eraill yn yr ymwybyddiaeth nad ar sail ein gweithredoedd da y cawn ein derbyn gan Dduw, ond yn hytrach ein bod yn cyflawni gweithredoedd da gan ein bod eisoes wedi’n derbyn trwy’n ffydd yn Iesu Grist. Yn ychwanegol at y rhyddid sy’n eiddo i’r Cristion am byth, gwelir hefyd yn y Beibl gyfarwyddiadau cyson i siarad am fawredd a daioni Duw gydag eraill. ‘Diolchwch i’r Arglwydd. Galwch ar ei enw, gwnewch yn hysbys ei weithredoedd ymysg y bobloedd.’ (Salm 105:1) Dros weddill yr haf, gweddïwn am gymorth yr Ysbryd Glân i fwynhau’r rhyddid y mae Crist wedi ei ennill i ni, ac wrth i ni wneud hynny i gael hyder cynyddol i rannu’r Efengyl gydag eraill. Rhodri Llais Bro Aled 22.07.18


Interview with Gofid of Welsh Black Metal band Iselder
19/07/2018, 5:29 pm
Gofid (meaning sorrow) plays extreme metal with Welsh song titles under the name Iselder (meaning depression). His work attracted attention this month when he covered Dafydd Iawn’s cultural anthem Yma O Hyd- parallel.cymru went to find out more! First up Gofid, what is your background in metal? I first started listening to metal when I was about eleven years old, slowly getting in to classic bands such as Judas Priest, Iron Maiden and Black Sabbath. In my teenage years I had a good friend who introduced me to the more extreme side of things with Cannibal Corpse and Slayer, which forged the path for me to seek out the most extreme metal I could find. At sixteen I discovered bands such as Dimmu Borgir and Gorgoroth, and it’s all been a passion of mine ever since. I understand that you’re not fluent in Welsh, but you’re keen to use the language- what is the appeal for you in this? As a Welshman I feel as though it’s my duty to promote and publicise our nations heritage whenever possible- be it the language, history, or folklore. I believe that doing this will not only encourage people to learn more about Wales as a whole, but possibly help us thrive in the future and help keep the culture alive. Your current release is a recording of the unofficial Welsh-language national anthem Yma o Hyd by Dafydd Iwan- why cover this? The idea to record it had been on the drawing board for a few months now, as I felt that there hadn’t really been a Welsh metal band to release a song relating to the history of the country itself. It felt fitting to release it ahead of the new album in light of the renaming of the Severn Bridge into the now “Prince of Wales” Bridge. I’d like to think of it as a form of protest, and I hope Dafydd Iwan catches wind of it and is proud that his message is being heard by a new generation of proud Welsh people. Your music released as Iselder is you performing vocals, guitar, and bass with drum machine software.  Do you have your own studio, or do you record and produce everything at home? Everything is recorded at home, as Iselder is a deeply personal project of mine. A Welsh promoter once greatly insulted me by telling me that they’re not interested in “bedroom bands”, so I’ve made it almost my mission to prove that I don’t need them. But other than that I don’t think I’d ever ask for help with the recording/production side of things. The only things I use are my instruments and the recording software on my computer. It’s also handy to do everything myself, as this lets me avoid dealing with people (aside from a very tolerant wife who sleeps on the sofa when I decide to record at 3am) as I often like to work alone and prefer to keep my independence as an artist rather than relying on others. This means my music is entirely my creation and my vision and is not muddied by the input of other voices. These days independent creators have to responsible for the marketing of their work and development of their careers, and not be reliant on a publisher/label/agent/manager/producer to do those tasks.  Do you have any tips for other independent creators in Wales? The biggest tip that I can give is to hone your craft and develop your own sound. Don’t try to be another second wave worship band, unless that’s what you really want to be. The world doesn’t need another Burzum or Darkthone. What it needs are original bands to make their mark so that the scene can flourish and continue. There’s a few bands I could name that don’t really offer anything new, and instead rely too much on the achievements of others for their success, imitating them to such a degree where I could easily confuse the two and personally that doesn’t appeal to me. You can often find blogs and such that would be more than happy to review your music, and it’s easier now than ever to sell your music online through Bandcamp and other such sites.  Never ask for anything, ever make excuses, stand your ground and do what you want to do. There are a lot of guitar-based rock and indie bands in Wales, but not many metal bands.  Are there are any other Welsh metal bands that you listen to? There are quite a few bands from Wales that I listen to- the most well-known being the death metal band Desecration. But as for smaller bands, I’d say the death metal trio Sepulchre are a must to see live. Other than that you have black metal bands like Ghast (who were featured on Fenriz of Darkthrone fame’s radio podcast), Coedwig Machen, Lleuad, and Merciless Savage. All distinctly different from each other, each bringing their own twist on the genre. I listen to Emperor, Satyricon and Darkspace a lot; in terms of extreme metal, what bands do you enjoy listening to and who has influenced your style? I listen to a wide array of bands nowadays, so it’s hard for me to pick out a select few who have influenced my style. I’d definitely say bands such as Satanic Warmaster, Tsjuder, Leviathan, and Nargaroth were big influences when starting Iselder, and they all definitely had a hand in shaping in the music you hear me playing today. The influences definitely come out more on the upcoming album than they did on the last, but aren’t comparable in any way. I don’t want to be Wales’ version of Mayhem, or Gorgoroth, or Burzum. I want to be Gofid, sole member of Iselder, and be at the forefront of Welsh Black Metal.   iselder.bandcamp.com    youtube.com/channel/UCzW715U-PEsKXV885LgGSNw coedwigmachen.bandcamp.com lleuad.bandcamp.com mercilesssavage.bandcamp.com sepulchreofficial.bandcamp.com ghastdreaddoomruin.bandcamp.com desecration.bandcamp.com  


ymarfer yn erbyn ymosodwr arfog
19/07/2018, 4:30 pm
Cynhaliwyd ymarfer yn erbyn ymosodwr arfog mewn ysgol yn Norman, Oklahoma ddoe, gyda SWAT, parafeddygon, dynion tân a gwirfoddolwyr lleol. Roedden nhw’n actio yn ôl senario lle mae’r ymosodwr yn cymryd rhai pobl yn wystlon. Roedd fy merch yn wrth ei bodd yn chwarae’r rhan brif wystlon. (Mae rhai gwystlon yn edrych yn hapus!) Dwedodd mai mor rymus ydy SWAT fel nad oes ymosodwyr lawer o obaith.


Gweithgaredd yn Shw’mae Caerdydd: Sut all dysgwyr gyfrannu at fywyd Cymry Cymraeg? / How can learners contribute to Welsh-speaking life?
19/07/2018, 2:35 pm
Weithiau, fel dysgwyr dyn ni’n gallu meddwl ei fod yn anodd cyfrannu i fyd y Cymry Cymraeg. Yma, mae Neil Rowlands a chyfranwyr i’r cylchgrawn digidol parallel.cymru yn siarad am eu gwaith ac yn cynnig awgrymiadau a chyngor. Sometimes, as learners we can think it is difficult to contribute to the Welsh-speaking world. Here, Neil Rowlands and contributors to the digital magazine parallel.cymru speak about their work and give tips and advice. Bydd y chwech ohonom ni- Neil, Dani, Nicky, Patrick, Peter & Sam siarad am hyn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni: The six of us- Neil, Dani, Nicky, Patrick, Peter & Sam will speak about this in the National Eisteddfod this year: Dydd Sadwrn 04/08, 15:10 yn Shw’mae Caerdydd (Adeilad Pierhead / Pierhead Building); mynediad am ddim. Croeso cynnes i gyd! A warm welcome to all! Dani Schlick Aelod o gymuned leol ac wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017 Sut all dysgwyr Cymraeg gyfrannu at fywyd Cymraeg? – Ymhob ffordd bosibl fel pobl sydd yn cyfrannu at fywyd pobl a chymunedau. How can Welsh learners contribute to Welsh-speaking life? – In any possible way as people who contribute to life in communities. Beth bynnag sydd yn digwydd yn y Gymraeg mewn unrhyw gyd-destun a dach chi’n rhan o’r digwyddiad – boed yn y gymuned, yn y gwaith neu yn eich amser sbâr – dach chi’n cyfrannu at fywyd Cymraeg. Whatever event in the Welsh language in any context – if you are a part of the event – in the community, at work or in your spare time – you are contributing to Welsh-speaking life. Enghraifft wych ydy Siân, un o fy ffrindiau o’r dosbarth Cymraeg, sydd yn gweithio fel ffisiotherapydd yn Ysbyty Alltwen Porthmadog. Dechreuodd hi ddysgu’r Gymraeg achos bod hi – yn Gymraes – isio siarad hen iaith ei gwlad a thrin cleifion yn eu hiaith nhw. Yn ei gwaith mae hi’n mynd i gartrefi cleifion yr ardal, sef Porthmadog, Beddgelert a Blaenau Ffestiniog – ardal Gymraeg iawn. Er mwyn i’r cleifion deimlo’n fwy cyfforddus mae hi’n bwysig iawn siarad eu hiaith gyntaf efo nhw. Mae cleifion Siân yn gwerthfawrogi hyn yn fawr. Ac fel bonws bach mae Siân yn dysgu cymaint am iaith yr ardal ac mae hi bellach yn siarad “iaith y brodorion”. A great example is Siân, a friend from my Welsh class, who works as a physiotherarpist in Ysbyty Alltwen in Porthmadog. She started learning Welsh because she – being Welsh – wanted to speak the language of her country and treat patients in their language. In her work she goes to the patients’ homes, in the area around Porthmadog, Beddgelert and Blaenau Ffestiniog – a very Welsh speaking area. To make patients feel more comfortable it is important to speak their first language with them. Siân’s patients appreciate this a lot. And as a little bonus Siân learns a lot about the language of the area. She already speaks the “native language”. Rydw innau’n siarad Cymraeg ym mhob cyd-destun posibl – efo cydweithwyr yn y gwaith ac wrth gwrs yn fy amser sbâr. Braint a phleser mawr oedd bod yn rhan o gôr yr Eisteddfod yn Ynys Môn 2017 – côr Cymry Cymraeg gan fwyaf. Roedd yna rai pobl yn y côr oedd yn fy nabod i, ond ddudes i ddim gair wrth neb arall mai dysgwraig Gymraeg ydw i – siarad Cymraeg efo pawb wnes i o’r cychwyn cyntaf. Ella bod aelodau’r côr wedi amau nid siaradwraig iaith gyntaf ydw i. And myself, I speak Welsh in any possible context – with colleagues at work and of course in my spare time. It was a great priviledge and pleasure to be part of the Eisteddfod Choir in Anglesey in 2017 – a mostly Welsh-speaking choir. Some people in the choir knew me, but I didn’t mention to the others that I am a Welsh learner – I just spoke Welsh to them from the very beginning. Maybe the choir members suspected that I was not a first language speaker. Felly am syndod iddyn nhw pan gyrhaeddais rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2017 – braint a phleser arall, gyda llaw. Agoriad llygaid oedd sylweddoli pa mor bwysig ydy cynnwys dysgwyr yn nigwyddiadau Cymraeg a siarad yr iaith efo dysgwyr. Felly, mewn ffordd cyfrannodd hyn at y ffordd maen nhw’n gweld dysgwyr Cymraeg rŵan. What a surprise it was to them when I reached the final of Welsh Learner of the Year 2017 – another priviledge and pleasure, by the way. It really opened their eyes, realising how important it is to include learners in Welsh-speaking events and to speak Welsh with learners. So in a way, this contributed to the way they see Welsh learners now. Gadewch i mi roi ychydig o gyngor i chi: Peidiwch â sôn mai dysgwr ydach chi – beth bynnag ydy eich lefel. Smaliwch! Bydd pobl yn sylwi wrth i chi siarad. Ond trwy beidio â dweud y gair “dysgwr” bydd y sgwrs yn fwy naturiol o’r dechrau. Ac unwaith dach chi wedi dechrau yn y Gymraeg, mae’n anodd newid yr iaith. A dyna chi! Let me give you one little advice: Don’t say that you are a learner – what ever your level. Pretend! People will notice when you are speaking. But by not saying the word “learner” the conversation start more natural. And once you’ve started in Welsh, it will be difficult to change the language. And there you are! Neil Rowlands Sylfaenedd, parallel.cymru Mae dysgu unrhyw iaith yn dod â gwobrwyon, heriau a chyfleoedd. Mae dysgu Cymraeg dros y bum mlynedd ddiwethaf wedi agor y drws i fi gwrdd â channoedd o bobl newydd, datblygu cyfeillion newydd, ac i fwynhau’r diwylliant Cymraeg a’i sefydliadau. Learning any language bring rewards, challenges and opportunities. For myself, learning Welsh over the last five years has opened to the door to meeting hundreds of new people, develop friendships and has opened the door to Welsh culture and its institutions. Sut bynnag, dydy hi ddim wedi bod yn daith syml a syth. Dechreuais fynd i grwpiau siarad â gweithgareddau cymdeithasol yn Nhŷ Tawe chwe mis ar ôl dechrau mynd i ddosbarthiadau, a deall bron dim byd! Ond nid oes siaradwyr Cymraeg yn fy nheulu, nac yn fy swyddfa, ac nid yw llawer o fy ffrindiau yn siarad Cymraeg, felly roeddwn yn gwybod bod angen i fi glywed yr iaith yn y byd go iawn. Wrth gwrs, roedd y gymuned yn Abertawe yn fy annog ac yn groesawgar iawn. Dros amser, dechreuais i ddeall mwy, ac wedyn dechreuais i wneud cyfraniadau bach i sgyrsiau. Nawr, wrth i fi gwrdd â rhywun newydd dydw i ddim yn teimlo bod angen i fi gyflwyno fy hunan gyda’r term dysgwr. However, it has not always been a linear and straightforward journey. I started going to speaking groups and social events in Tŷ Tawe six months after starting classes, and barely understood a word! However, not having Welsh speakers in my family, office or many existing friends, I knew that I had to be hearing Welsh in the real world. Of course, the community in Swansea was very encouraging and welcoming. Over time I began understanding more, and then began small contributions to conversations; now feel that when I meet someone new I don’t need to identify myself with the term learner. Ddwy flynedd yn ôl penderfynais integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, felly ceisiais am rai swyddi ble roedd galluoedd Cymraeg yn hanfodol. Yn yr ail o’r cyfweliadau hynny, derbyniais i’r cwestiwn “Beth yw eich cryfderau a’ch gwendidau?”, ond nes i ddim deall y geiriau cryfderau a gwendidau. Gofynnais i’r aelod o’r panel ailadroddiad y cwestiwn, ond doeddwn i ddim yn dal i ddeall, felly roedd yn rhaid i fi ofyn am y cwestiwn yn Saesneg! Teimlais fel twpsyn enfawr! Beth bynnag, roedd y broses o sgwennu’r cais yn y Gymraeg a hala amser yn paratoi am y cyfweliad wedi rhoi oriau o amser cyswllt i mi, ac roedd y teimlad fy mod wedi sefyll ar fy nhraed fy hun i gyflwyno cais uchelgeisiol mewn iaith roeddwn i yn dal i’w dysgu wedi rhoi hwb anferth i fi. Two years ago I decided that I wanted to integrate Welsh into my life, so I applied for some jobs where Welsh language abilities was a requirement. In the second of those interviews I was asked the question: “What are your strengths and weaknesses?”, but I didn’t understand the words cryfderau and gwendidau. I asked the panel member to repeat the question, but I still didn’t understand, so had to ask for the question in English! I felt a right wally! However the process of writing the application in Welsh and spending time preparing for the interview gave me hours of contact time, and the feeling that I had stood on my own feet to submitted an ambitious application through a language that I was still learning gave me a tremendous boost. Yn hydref 2017 sylweddolais i fy mod i mewn sefyllfa ‘catch-22’ – roeddwn i’n moyn integreiddio Cymraeg yn fy mywyd, ond doedd dim cyfleoedd i wneud hynny yn fy swydd. Roedd fy niffyg profiad o ran darparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg yn fy rhoi i dan anfantais wrth gymharu gydag ymgeiswyr eraill, beth bynnag oedd safon fy Nghymraeg. In autumn 2017 I realised that I was in a catch-22 situation- I wanted to integrate Welsh into my life, but was in a job where there were no opportunities to do that. A lack of experience of delivering Welsh-medium services would always put me at a disadvantage compared to other applicants, whatever my standard of Welsh. Sylweddolais fod gen i benwythnosau a nosweithiau i’w defnyddio, a doedd dim angen ffeindio swydd neu gyllid i wneud rhywbeth – gallen i ddechrau rhywbeth fy hunan. Dw i’n gyfarwydd â chreu gwefannau a dweud wrth bobl amdanyn nhw, ac ro’n i’n ymwybodol bod darllen yn baralel yn cael ei ddefnyddio mewn parau eraill o ieithoedd Ewropeaidd, felly treuliais gwpl o wythnosau yn taflu rhywbeth at ei gilydd. Gofynnais i rai cyfeillion gyfrannu peth cynnwys, dywedais wrth rai pobl eraill amdano fe ac roedden nhw yn ei hoffi, felly gwnes i iteru ac es i yn fyw cwpl o wythnosau ar ôl hynny. I realised that I had weekends and evenings to use, and that I didn’t need to find a job or funding to do something – I could just start something myself. I’m familiar with building websites and telling people about them, and I was aware that parallel reading is used in other European language pairs but not English-Welsh, so I spent a couple of weeks chucking something together, asked some friends to contribute some content, told some more people about it, who seemed to like it, so I iterated and then went live a couple of weeks after that. Mae cyfleoedd anhygoel i bobl ddefnyddio gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg sydd ddim yn bodoli ar hyn o bryd; dyw cyllid a gweledigaeth y llywodraeth ddim yn gallu gwneud popeth, ac mae’n bwysig i’r gymuned arloesi a thrio pethau newydd. There are incredible opportunites for people to deliver services through the medium of Welsh which don’t currently exist; government funding and vision only goes so far, and it is up to the community to innovate and try new things from the ground up. Mae’r prosiect delfrydol yn cyfuno rhywbeth rydych yn gwybod sut i’w wneud gyda rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi. Roeddwn yn gwybod sut i greu a hyrwyddo gwefannau, ac roedd gen i ddiddordeb mewn gwneud i’r Gymraeg fod yn iaith hygyrch. The ideal project is to combine something that you know how to do with something that you are have an interest in. I knew how to make and publicise websites, and had an interest in making Welsh accessible. Tu ôl y llen, dw i wedi derbyn llawer o gefnogaeth; mae rhai pobl wedi rhoi o’u hamser i wella safon y cynnwys ar parallel.cymru, e.e. Elgan Davies-Jones, David Sutton a Patrick Jemmer (nodyn- os oes unrhyw wallau iaith ar parallel.cymru, fi sy’n gyfrifol, nid nhw). Hefyd, mae’n rhyfeddol gweld pobl fel Dani, Huw Rowlands, Nicky a Peter yn defnyddio eu amser yn hael i rannu eu sgiliau a’u profiad trwy beth maen nhw’n wneud. I’ve also received a lot of support behind the scenes; some very kind people have granted their time to improve the standard of content on parallel.cymru, such as Elgan Davies-Jones, David Sutton and Patrick Jemmer (note- if there are any language errors on parallel.cymru then I’m responsible, not them). It’s wonderful to see people such as Dani, Huw Rowlands, Nicky and Peter use their time freely to share their skills and experience through what they do. Mae’r byd digidol wedi cael gwared â rhwystrau – os oes syniad gyda chi am rywbeth sydd ar goll o’r byd Cymraeg, pam na wnewch chi lenwi’r bwlch eich hunan? The digital world has removed barriers – if you have an idea for something that is missing from the Welsh-speaking world, why not fill it yourself? Nicky Roberts Sylfaenydd useyourwelsh.com & youtube.com/learnwelshwithnicky; wedi cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2018 Bron dwy flynedd yn ôl, oeddwn i mas yn Ffrainc gyda beth oedd yn teimlo fel pawb o Gymru, gan gefnogi ein cenedl with iddyn nhw gystadlu yn erbyn y timau gorau yn Ewrop am y tro gyntaf yn fy mywyd. Almost two years ago, I was in France with what I felt like everyone from Wales, supporting our nation to compete against the best teams in Europe for the first time in my life. Cymerodd cyfarfod ar hap a damwain gyda hogyn a oedd yn gofyn i fi a oeddwn i angen unrhyw help i ddod â ‘mheintiau yn ôl i’m sedd. Doeddwn i ddim yn gwybod ar y pryd, ond mae hogyn yna wedi cael effaith enfawr ar fy mywyd. I had a chance meeting with a guy who asked me if I needed any help to bring my pints back to my seat. I did not know at the moment, but that guy has had a huge impact on my life. Des i adre ar ôl yr Ewros gyda llawer llai o arian ac ychydig bach mwy o bwys arna i, ond oeddwn i’n gwybod bod rhywbeth wedi newid yn fy mhen. Roeddwn i fynd i ddysgu’r iaith o fy ngwlad, canu’r anthem a ddeall beth oeddwn i wedi bod yn canu ers y tro gyntaf gwelais i gêm pêl-droed tîm Cymru yn 1990. I came home from the Euros with much less money and a bit more pressure on me, but I knew something had changed in my head. I was going to learn the language from my country, sing the anthem and understand what I had been singing since the first time I watched the Wales team football game in 1990. Dw i’n dod o Gwm Rhondda yn wreiddiol, o dre eithaf bach o’r enw Edmondstown. Pan oeddwn i’n tyfu i fyny yn y Cymoedd, chlywais i mo’r iaith Cymraeg nes i fi fynd ar wyliau yng ngorllewin Cymru gyda ‘nheulu. Doedd dim ysgol uwchradd Cymraeg yn y Gymoedd pan oeddwn i’n tyfu i fyny – ac oedd gan yr ysgolion Saesneg yn yr 80s llawer mwy i’w gwneud er mwyn ysbrydoli unrhyw un i ddysgu’r iaith. Originally from the Rhondda Valley, from a very small town with the name Edmondstown. When I grew up in the Valleys, I didn’t heard the Welsh language until I went on holiday in West Wales with my family. There was no Welsh-medium secondary school when I grew up – and English-speaking schools in the 80s had a lot more to do to inspire anyone to learn the language. Dim ond wythnos cyn Nadolig 2016, gwnes i chwilio Google am ‘How to learn Welsh quickly’ a ffeindies i’r rhaglen ‘Say Something in Welsh’. Dechreuais i hynny, gan wneud un neu ddwy wers y diwrnod. Ar ôl dwy a hanner wythnos dysgu’r iaith, dechreuais i sianel ar Youtube o’r enw “Learn Welsh with Nicky (www.youtube.com/learnwelshwithnicky)”. Ers hynny fy sianel wedi tyfu a datblygu- mae gen i fwy na 350 tanysgrifwyr a fy sianel wedi cael mwy na 20,000 golygfeydd. Just a week before Christmas 2016, I went to search Google for ‘How to learn Welsh quickly’ and go to the Say Something in Welsh program. I started to do that, doing one or two lessons a day. After two and a half weeks of learning the language, I started a channel on YouTube with the name “Learn Welsh with Nicky (www.youtube.com/learnwelshwithnicky)”. Since then my channel has grown and developed- I have more than 350 subscribers and my channel has more than 20,000 views. Mae’r peth pwysicach dw i wedi (ei) wneud ers dechrau siarad Cymraeg wedi bod yn helpu i ddenu ac annog pobl eraill i roi cyfle i’r iaith, yn ogystal â rhedeg sesiynau ar gyfer dechreuwyr newydd sbon dros gymunedau ar-lein. Ac yn fywyd go iawn, dw i wedi sefydlu gwefan newydd sbon sydd yn trio help i ddenu ac annog pobl a busnesau i ddefnyddio’r iaith yn fwy aml. Sef, fy wefan newydd www.useyourwelsh.com sydd yn ddwyieithog. The most important thing I’ve done since starting to speak Welsh has been helping to attract and encourage others to try the language, as well as running sessions for brand new beginners for online communities. And in real life, I have set up a brand new website that helps help attract and encourage people and businesses to use the more frequent language. That is, my new website www.useyourwelsh.com is bilingual. Beth dw i wastad yn ddweud i ddysgwyr yw “Ewch amdani nawr!” Trwy ddysgu’r iaith, dw i wedi cwrdd â llawer o bobl sydd eisiau bod yn rhugl, heb fynd mas a defnyddio eu Gymraeg. Mae siarad gyda phobl eraill yw’r peth pwysicach byddech wneud! Hyd yn oed tasech yn poeni am wneud camgymeriadau- peidiwch! Oedd hynny yn allweddol i’m llwyddiant dysgu’r iaith – doeddwn i ddim yn ofnus o gwbl. Oeddwn i mas yn y dre’n trio ffeindio siaradwyr Cymraeg go iawn ar ôl un wythnos o’i dysgu hi! Dylwch chi wneud yr un peth hefyd! What I always say to learners is “Go for it now!” By learning the language, I have met many people who want to be fluent, but haven’t gone out and used their Welsh. Talking with other people is the most important thing you can do! Even worry about making mistakes- don’t! That was crucial to my language learning success – I was not frightened at all. I was out in the town trying to find the real speakers of the language after one week of learning it! You should do the same thing too! Dyn ni i gyd yn gyfrifol am yr iaith- mae dyfodol yr iaith yn ein dwylo ni. Gallwn ni ddewis beth sydd yn digwydd gyda’r iaith. We are all responsible for the language- the future of the language is in our hands. We can choose what’s happening with the language. Patrick Jemmer Cyfieithydd Ask Dr Gramadeg, tiwtor a cyfrannwr rheolaidd i parallel.cymru Dechreuais i ddysgu’r Gymraeg yn Nhŷ Tawe yng nghanol Dinas Abertawe, pan ddes i adref o Newcastle lle ro’n i wedi bod yn gweithio, ac rwy wedi bod wrthi ers chwe blynedd erbyn hyn. Rwy’n dwlu ar yr iaith Gymraeg ac ar y diwylliant Cymreig, ac rwy wastad yn ceisio ymarfer, rhannu syniadau a’m cariad at yr iaith, a dysgu mwy. Ro’n i’n lwcus iawn pan enillais i Dlws Rhyddiaith y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni yn 2016 gyda darn o’r enw ‘Pontydd’. I began to learn Welsh in Tŷ Tawe in Swansea city center when I came back home from Newcastle where I had been working, and I’ve been working at it now for six years. I love the Welsh language and Welsh culture, and I’m always trying to practise, to share ideas and my love of the language, and to learn more. I was very lucky when I won the Prose Medal for Learners in the National Eisteddfod in Abergavenny in 2016, with a piece entitled ‘Bridges’. Dros y cyfnod 2012 – 2014 ro’n i’n astudio hefyd ym Mhrifysgol Abertawe ar gyfer ‘Tystysgrif Addysg Uwch’ mewn Ysgrifennu Creadigol a Seicotherapi (yn Saesneg), gan gynnwys llawer o ymarferion wedi’u seilio ar ‘Ysgrifennu’r Hunan’, a graddiais gyda rhagoriaeth yn 2014. Felly roedd llawer o syniadau ‘da fi am bynciau ac awgrymiadau creadigol pan ddechreuais i greu cynnwys ar gyfer Parallel.cymru. Over the period 2012 – 2014 I was also studying in Swansea University for a ‘Certificate of Higher Education’ in Creative Writing and Psychotherapy (in English), containing lots of exercises based on ‘Writing the Self’, and I graduated with a distinction in 2014. So I had loads of ideas for topics and creative prompts when I started to create content for Parallel.cymru. Er bod y gwaith Saesneg eisoes wedi cael ei gywiro gan diwtoriaid (diolch yn fawr iawn i Mr Andrew Hubbard a Dr Catriona Ryan am eu cymorth a’u hadborth i gyd), dwi ddim yn cyfieithu fy ngeiriau o’r Saesneg i’r Gymraeg, fodd bynnag. Erbyn hyn, rwy’n ‘sgrifennu’n syth yn Gymraeg. Profiad mor wych yw meddwl a chyfathrebu yn y Gymraeg. A dweud y gwir yn aml mae’n well ‘da fi sut mae fy ‘llais creadigol’ yn swnio yn y Gymraeg. Rwy’n dwlu ar yr iaith! Nawr rwy’n arbrofi gyda darnau ffeithiol, rhai hunanfynegol, tipyn bach o hiwmor (gweler Ffred Phantastig a’i gastiau — ha ha ha!), a hyd yn oed ychydig ffuglen wyddonol. Although the English-language work had already been corrected by tutors (many thanks to Mr Andrew Hubbard and Dr Catriona Ryan for all their help and feedback), I don’t translate my words from English into Welsh, however. By now I write directly in Welsh. It’s an excellent experience thinking and communicating in Welsh. And to be honest, often I prefer how my ‘creative voice’ sounds in Welsh. I love the language! Now I’m experimenting with factual pieces, self-expressive ones, a bit of humour (see Ffred Phantastig and his antics — ha ha ha!), and even a little science fiction. Wedyn sefais i’r arholiad Safon Uwch ar gyfer Siaradwyr Ail Iaith fis Mehefin 2017, ac enillais i ‘ragoriaeth.’ Bellach rwy’n ‘neud llawer iawn o waith aruthrol ddymunol i’r wefan Parallel.Cymru, fel awdur, a chan helpu gyda golygu a chyfieithu. Cwrddais i â Neil, reolwr y prosiect yn ystod y dosbarthiadau Cymraeg. Wrth gwrs mae’r proses i gyd yn golygu dysgu drwy’r amser, ac rwy’n gwerthfawrogi ac yn mwynhau derbyn adborth a chyweiriadau, gan nad ydw i’n arbenigwr, a chan fod pob sylwad adeiladol yn helpu fi i ddysgu a gwella, a dyna f’agwedd at ddysgu a defnyddio iaith. Wedi dweud hynny, rwy’n gallu mynd i’r dafarn a chwrdd â phobl newydd gan sgwrsio yn y Gymraeg heb unrhyw broblemau o gwbl! A heb os, mae’r ysgrifennu a phrawf-ddarllen ac yn y blaen wedi bod yn ddefnyddiol iawn yn hyn o beth. Then, I sat the A-Level exam for Second-Language Speakers in May 2017, and I got a distinction. Now I’m doing a great deal of immensely enjoyable work for Parallel.cymru, as an author, and helping with editing and translating. I met Neil, manager of the project, during the classes. Of course the whole process involves learning all the time, and I appreciate and enjoy receiving feedback and corrections, as I’m not an expert, and all constructive comments help me to learn and improve, and that’s my attitude to learning and using a language. Having said that, I can go to the pub and meet new people, chatting in Welsh without any problems at all! And without a doubt, the writing and proof-reading and so on have been very useful in this. Rwy’n hunangyflogedig ar hyn o bryd. Y peth sy’n f’ymysgogi’n gryfa’ yw chwilfrydedd enfawr, ac awydd archwilio pethau newydd, gan ddatblygu a mynegi gallu creadigol. Rwy’n dwlu ar ehangu fy neall a’m dirnadaeth ac ar helpu pobl eraill i ‘neud yr un peth ac i fynd â’r maen i’r wal mewn beth bynnag maen nhw eisiau ei ‘neud. I’m self-employed at present. My main drive is enormous curiosity and a desire to explore new things, and to develop, and express creativity. I love expanding my understanding and insight; and helping others to do the same and achieve their goals in whatever they want to do. Rwy’n dysgu gwyddoniaeth, mathemateg, Saesneg i bobl sy’n sefyll arholiadau TGAU a Safon Uwch, a hyd yn oed i rai sy’n fyfyrwyr mewn prifysgolion. Rwy wedi bod yn gweithio gyda sawl myfyriwr sy’n mynd i ysgolion cyfun. Rwy’n gweithio wyneb yn wyneb, gyda grwpiau, a thros y rhyngrwyd. Rwy eisiau defnyddio’r iaith Gymraeg yn fwyfwy gyda myfyrwyr, gan ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy weithio fel tiwtor iaith Gymraeg i bobl ifanc ac oedolion hefyd. I teach maths, science and English to people who are sitting GCSEs and A-Levels, and even some university students. I’ve been working with several students who go to Welsh-language secondary schools. I work face-to-face, with groups, and over the internet. I want to use the Welsh language more and more with students by teaching through the medium of Welsh, and by working as a Welsh language tutor for young people and adults too. Felly, dych chi’n gallu ymarfer y Gymraeg bob amser, o ddweud ‘shw mae’ yn y siop gornel, y llyfrgell, neu ar y bws, gan ei defnyddio yn y gweithle, trwy wirfoddoli yn y fenter iaith leol, i rannu’ch profiadau neu’ch syniadau ar Parallel.cymru. Mae pobl yma i’ch helpu chi, felly peidiwch bod yn ofnus. Fel ro’n i’n ddweud, er mod i’n dwlu ar ramadeg, rwy wastad yn dysgu rhywbeth newydd, ac rwy’n dweud diolch o’r galon i bawb sy’n helpu fi. Y peth mwya’ pwysig yw ein bod ni’n gyfeillgar iawn, yn danbaid dros yr iaith, yn gweithio fel tîm, gan annog ein gilydd wrth hybu’r iaith. Pam na fyddwch roi cynnig arni gan ymuno â ni ar ein taith darganfod i’r iaith a diwylliant Cymraeg? Mae’n anhygoel o werth chweil, a llawn hwyl hefyd! So, you can practise Welsh all the time, from saying ‘shw mae’ in the corner shop, the library, or on the bus, using it in the workplace, through volunteering in the local Menter Iaith, to sharing your experiences or your ideas on Parallel.cymru. There are people here to help you, so don’t be frightened. As I was saying, although I love grammar, I’m always learning something new, and I’m truly grateful to everyone who helps me. The most important thing is that we are all very friendly, passionate about the language, work as a team, encouraging each other whilst promoting the language. Why don’t you give it a go and join us on our journey of discovery into Welsh language and culture? It’s incredibly worthwhile, and full of fun, too! Peter Mescall Ysgrifennwr Newyddion i Ddysgwyr Newydd a threfnwr cyrisau i ddysgwyr Tua dwy flynedd yn ôl, o’n i chwilio am rywbeth i wneud. O’n i wedi siarad efo athro arall yn yr ysgol. Gaeth o ei fagu yn y Gogledd ond yn wreiddiol gaeth o ei eni yn Lerpwl. “Siarad Cymraeg?” meddai. Do’n i ddim yn medru ymateb yn y Gymraeg. Ac wedyn, o’n i’n meddwl: “Pa mor gywilydd- fedra i ddim yn ymateb yn y Gymraeg”. About two years ago, I was looking for something to do. I was speaking with another teacher in the school. He was brought up in North Wales but was originally from Liverpool. “Do you speak Welsh?” he said. I couldn’t answer in Welsh. And then I thought: “How shameful- I can’t answer in Welsh”. Felly, mi wnes i benderfynu dysgu’r iaith; yn gyntaf efo Say Something in Welsh. Mae’r cwrs yn wych ond ar y pryd o’n i isio rhywbeth arall. O’n i isio dysgu mwy felly wnes i drio trefnu penwythnosau ar gyfer dysgwyr. So, I decided to learn Welsh; to start with Say Something in Welsh. The course is great but at the time I was looking for something else. I was learning more so I tried to organise weekends for learners. Wedyn, o’n i’n darllen parallel.cymru. Mi wnes i sylweddoli bod dysgwyr angen pethau er mwyn helpu nhw dysgu geirfa newydd. Wnes i anfon neges at Neil….”Liciwn I drio sgwennu’r newyddion yn y Gymraeg- cyfle i ymarfer darllen a hefyd dysgu geiriau newydd” Then, I was reading parallel.cymru. I realised that learner need something to help them learn new vocabulary. I sent a message to Neil… “I’d like to try writing the news in Welsh- a chance to practice reading and an opportunity to learn new words”. A dyna ni. Dw i’n dal i drefnu penwythnosau a dw i mor falch oherwydd bod pawb yn medru cael y cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg dros y penwythnos. Hefyd y newyddion- dw i wedi dysgu cymaint ers i mi ddechrau cyfrannu’r newyddion. And there we are. I still organise weekends and I’m so proud that people have the opportunity to use their Welsh over the weekend. Also the news- I have learnt so much since I started contributing the news. Gobeithio eich bod chi i gyd yn teimlo eich bod chi’n cael y cyfle i wella hefyd. I hope that you all can feel that you have the opportunity to improve as well. Sam Brown Ieithydd a Swyddog Marchnata Digidol i Wasg Gomer Mi ddechreues i ddysgu Cymraeg tua saith mlynedd yn ôl ar ôl i mi fynd ar wyliau i ogledd Cymru a chlywed yr iaith yn cael ei siarad gan fwyafrif y bobl yr rôn i’n eu gweld ar y stryd. Ar ôl hwn rôn i’n gwybod mod am ddysgu mwy o’r iaith a phan ddôth yr amser i mi ddewis pa brifysgol i fynd iddi, rôn i’n gwybod mai yng Nghymru rôn am astudio er mwyn medru dysgu’r iaith. I started learning Welsh about seven years ago after I went on holidays to north Wales and and heard the language being spoken by the majority of people that I saw on the street. After that I knew that I was going to learn the language, and when the time came to decide which university to go to, I knwe that in Wales I could study the langauge. Ers wedyn mae’r Gymraeg wedi dŵad yn fwy ac yn fwy pwysig i mi ac i’m bywyd beunyddiol. Mi wnes i astudio pob lefel o gyrsiau Cymraeg i Oedolion, ac ar ôl gorffen fy ngradd BA yn Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor mi es i ymlaen i astudio Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, lle astudies i drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Ar ôl gorffen yng Nghaerdydd ces i swydd efo Gwasg Gomer yng Nghaerfyrddin lle dwi wedi bod yn gweithio ers blwyddyn fel y Swyddog Marchnata Digidol. Since then the Welsh language has been more and more important to me and my daily life. I studied every level of Welsh for Adults courses, and after finishing my BA degree in German in Bangor University I went on to study Welsh and Celtic Studies in Cardiff University, where I studied through the medium of Welsh only. After finishing in Cardiff I got a job with Gomer Press in Carmarthen where I’ve worked for a year as a Digital Marketing Officer. Weithiau mae’n anodd defnyddio ail iaith (neu, yn fy achos i, trydedd iaith) yn y gweithle ac ym mhob agwedd o‘r bywyd proffesiynol a phersonol. Dwi ddim yn gwybod pob un gair yn Gymraeg ac mae wedi bod yn her imi ddŵad i arfer efo’r holl dafodieithoedd – yn enwedig ar ôl byw yn nhair cornel Cymru. Sometimes it is difficult to use a second language (or, in my case, a third language) in the workplace and in every aspect of professional and personal life. I don’t know every word in Welsh and it has been a challenge for me to practice with all dialects – especially after living in three corners of Wales. Y cyngor gorau dwi’n gallu ei roi ydy- peidiwch ag ofni deud pan nad ydach chi’n dallt rhywbeth. Does dim byd gwaethaf na bod ar y ffôn neu mewn cwarfod a cholli gair neu fethu dallt acen rhywun. Ond, yn enwedig wrth drafod pethau pwysig yn y swyddfa neu yn y brifysgol, weithiau dach chi’n gorfod rhoi eich llaw yn yr awyr a gofyn i rywun esbonio. The best advice I can give is- don’t be afraid when you don’t understand something. There’s nothing worse than being on the phone or in a meeting and losing a word or not understanding someone’s accent. But, especially when discussing important things in the office or at university, sometimes you have to put your hand in the air and ask someone to explain. Dydy hyn ddim wastad yn brofiad da ac mae’n gallu teimlo’n lletchwith iawn, ond yn y diwedd bydd yn eich helpu chi wrth ddŵad yn fwy hyderus a rhugl wrth ddefnyddio’ch Cymraeg. Mi fyddwch chi’n dŵad i arfer wrth glywed gwahanol acenion a thafodieithoedd a bydd sgiliau yn datblygu megis dallt geiriau o’u cyd-destun a chreu geiriau newydd. This is not always a good experience and can feel very awkward, but in the end it will help you to become more confident and fluent in using your Welsh. You’ll be able to practice when you hear different accents and dialects and skills will develop such as words and phrases in their context. Un peth bach arall nad ydwi’n gallu awgrymu’n ddigon ydy defnyddiwch eich Cymraeg pryd bynnag cewch chi gyfle! One other thing that I can’t suggest enough is use your Welsh whenever you have an opportunity!  


Clymblaid y cyfoethogion a’r gwadwyr newid hinsawdd – sut i ffrwyno Trump a ‘gwleidyddiaeth ysgytwad’
19/07/2018, 12:59 pm
No is Not Enough: Defeating the News Shock Politics, Naomi Klein (Allen Lane) ADOLYGIAD GAN CHARLOTTE DAVIES “Ni ddaw henaint ei hunan” …na newid hinsawdd ’chwaith, mae’n ymddangos. Yn hytrach, fel mae Naomi Klein yn dadlau yn ei llyfr mwya’ diweddar No Is Not Enough: Defeating the New Shock Politics (Allen Lane 2017), fe ddaw gyda, ac, yn wir, fe gaiff ei alluogi gan gymysgedd pwerus o dueddiadau a gysylltir gyda thwf byd-eang neo-ryddfrydiaeth. Fel newyddiadurwr, awdur ac ymgyrchydd, mae Naomi Klein wedi ymchwilio i ac ysgrifennu am y tueddiadau hyn, a’u canlyniadau a’u perthynas i dŵf grym gwleidyddol neo-ryddfrydiaeth ers y 1970au – gan dynnu sylw at ei ymosodiadau ar y sector cyhoeddus a’i gefnogaeth ddi-gwestiwn i gorfforaethau elw-ganolig yn cael gweithredu heb unrhyw reoleiddio allanol. Mae’r llyfr hwn yn dod â gwaith blaenorol Klein ynghyd i esbonio cynnydd y rhaglen neo-ryddfrydol – sef trwy dŵf superbrands byd-eang, gwadu newid hinsawdd, gwthio cyfoeth preifat i’r sector cyhoeddus a’r defnydd cynyddol o’r hyn mae hi’n cyfeirio ati fel ‘dysgeidiaeth ergydio’ (shock doctrine) i danseilio prosesau gwleidyddol. Mae llawer o’r llyfr yn ymwneud ag esbonio tŵf ac ethol Donald Trump i Arlywyddiaeth yr UD: mae’n disgrifio creu superbrand Trump, sy’n gwerthu delwedd yn hytrach na chynnyrch ac yn y broses sy’ ddim yn petruso rhag allforio swyddi a damsang ar hawliau’r gweithwyr; mae’n dyrannu ymdeimlad Trump o hawl bersonol (yn gyfartal dros gyrff menywod ac adnoddau’r blaned) yn seiliedig ar ei gyfoeth anferth; ac mae’n pwyntio at ganlyniadau anorfod ei arlywyddiaeth – dadreoleiddio i gefnogi tŵf corfforaethau byd-eang a gwneud hyd yn fwy cyfoethog elit byd-eang sydd eisoes yn gyfoethog y tu hwnt i ddychymyg. Ond mae gan Klein bryderon y tu hwnt i gipiad Trump o Arlywyddiaeth yr UD: ‘Er mor eithafol ydyw, mae Trump yn llai o wyriad nag o ganlyniad rhesymegol – pastiche o fwy neu lai’r cyfan o dueddiadau’r hanner canrif mwya’ diweddar’ (t.9). Yn ei phennod yn ffocysu’n benodol ar newid hinsawdd a’r bygythiad amgylcheddol a gynigir gan apwyntiadau a gweithgareddau Trump, mae Klein yn dadlau bod gwadwyr newid hinsawdd yn amddiffyn ar-y-cyd eu goruchafiaeth economaidd a’r prosiect neo-ryddfrydol a’i creodd ac sy’n ei gynnal. ‘Mae gan gynhesu byd-eang ganlyniadau radical cynyddol wirioneddol. Os ydyw’n wir – ac mae’n amlwg ei fod – yna does dim modd i’r dosbarth oligarchaidd barhau i redeg yn wyllt heb reolau’ (t.83). Yna, mae Klein yn troi i ystyried y dulliau a ddefnyddiwyd i gyflwyno egwyddorion neo-ryddfrydol i sefydliadau’r gwladwriaethau democrataidd, dulliau y cyfeiria atynt fel y ‘wleidyddiaeth ysgytwad’ newydd. Dadleua fod y chwalfa feddyliol sy’n dilyn unrhyw drychineb mawr – yn cael ei hachosi gan ddigwyddiadau economaidd, cymdeithasol neu amgylcheddol – yn creu amgylchiadau lle gall mesurau gael eu gweithredu i danseilio gwasanaethau cymdeithasol, creu mantais i gorfforaethau byd-eang a gwneud yr elit sydd eisoes yn gyfoethog hyd yn oed yn fwy cyfoethog, wrth ddiddymu rheoliadau sy’n gwarchod yr amgylchedd, gweithwyr a chymunedau. Mae hi’n cyflwyno esiamplau o sut mae’r tactegau hyn wedi cael eu gweithredu’n effeithiol mewn sawl argyfwng gwahanol: yn ystod methdaliad agos Dinas Efrog Newydd yng nghanol y 1970au, a roddodd, gyda llaw, hwb ariannol anferth i Trump ar gost enfawr i’r ddinas; yn nhŵf y diwydiant amddiffyn yn sgil ymosodiadau 9 / 11; ac yn yr ymateb i Gorwynt Katrina yn New Orleans. Yn adran ola’r llyfr, mae Klein yn troi at y cwestiwn o beth y gellir ei wneud i atal y wleidyddiaeth ergydio hon gyda’i ehangu neo-ryddfrydol canlynol. Fel y cyhoedda’i theitl, dywed Naomi Klein, No is Not Enough. Ei dadl yw bod rhaid i’r gwrthwynebiad gynnig gweledigaeth newydd o sut y gellir trefnu cymdeithas. Mae hi’n cydnabod nad oes ond ychydig o gof yng nghymdeithasau’r Gorllewin o unrhyw fath o system economaidd ar wahân i rai sy’n hybu elw tymor-byr a chyfoeth personol wedi’i adeiladu ar dŵf economaidd parhaus – ‘system sy’n cymryd yn ddiddiwedd o drysor naturiol y ddaear, heb amddiffyn cylchoedd adferol, wrth dalu sylw peryglus o fach at ble y taflwn lygredd’ (t.240). Ond mae’n mynnu bod dyfodol gwahanol yn bosibl. Heb smalio bod ganddi weledigaeth gynhwysfawr o’r dyfodol hwnnw, mae’n terfynu trwy gynnig rhai enghreifftiau sy’n dangos ffordd ymlaen: un ohonynt yw’r mudiad yn Standing Rock i wrthsefyll pibell olew’r Dakota Access ar draws tir llwythol y Sioux; un arall yw The Leap Manifesto, ‘platfform heb blaid’ a gynhyrchwyd gan arweinwyr grwpiau amrywiol (amgylcheddol, undebau llafur, cymunedau brodorol, ffeministiaid) o ar draws Canada. Mae Klein ymhell o gynnig ffordd glir ymlaen, ond mae dwy egwyddor ar gyfer gweithredu yn sefyll allan: yn gyntaf, dylai gweithredu ddod â chymunedau amrywiol ynghyd i gydweithredu yn lle cystadlu – hawliau menywod, hawliau gweithwyr, cymunedau brodorol ac ati – gan gydnabod bod eu pryderon yn perthyn i’w gilydd; ac yn ail, dylai gweithredu ddechrau gyda gwerthoedd, nid polisïau, gan gydnabod ‘yr angen i symud o system sy’n seiliedig ar gymryd diddiwedd – o’r ddaear ac oddi wrth ein gilydd – at ddiwylliant wedi’i seilio ar ofalu, yr egwyddor wrth i ni gymryd, ein bod hefyd yn gofalu ac yn rhoi yn ôl’ (t.241). Crêd Klein fod ‘digywilydd-dra coup corfforaethol [Trump]’ wedi gwneud gweithredu dros newid systemig yn angenrheidiol ac ar ddigwydd. Gobeithio’n wir bod seiliau mor gadarn i’w hoptimistiaeth ynglŷn â’r gweithredu ag sydd i’w dadansoddiad o’r bygythiadau amrywiol.


Gwersi’r Holocost
19/07/2018, 12:28 am
Y broblem gydag anferthedd dychrynllyd yr Holocost yw bod tuedd i’w osod, fel petai, mewn categori ar wahan, y tu allan i hanes arferol, ac i bortreadu’r Natsïaid fel cartwnau. Perygl hynny yw i ni ddod yn ddirmygus o’r syniad bod modd i rywbeth tebyg ddigwydd eto. Mae cymharu pethau sy’n digwydd yn y presennol gyda’r hyn a ddatblygodd yn yr Almaen yn y 1930au yn aml yn cliché syrffedus, ond mae gwrthod dilysrwydd y gymhariaeth ym mhob achos (sef sut y dehonglir deddf Godwin erbyn hyn, er bod Mike Godwin ei hun wedi nodi bod cymharu â’r Natsïaid weithiau’n rhesymol) yn broblem hefyd. Darllenais Black Earth gan yr hanesydd Timothy Snyder yn ddiweddar (ar ôl darllen ei gyfrol flaenorol Bloodlands y llynedd). Prif thema Snyder yw bod yr Holocost wedi dilyn trywydd gwahanol mewn ardaloedd gwahanol, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau gwleidyddol lleol. Yn benodol, un o’i brif ddadleuon yw i’r Holocost fod ar ei waethaf yn yr ardaloedd hynny lle roedd y wladwriaeth a sefydliadau sifig wedi cael eu dinistrio’n llwyr. Y llefydd peryclaf i fod yn iddew (neu, i raddau llai, yn aelod o grwpiau lleiafrifol eraill) oedd i’r dwyrain o linell Molotov-Ribbentrop. Dyma’r ardaloedd a gollodd eu holl sefydliadau diolch i ymgyrch y Sofietiaid yn 1939, ac eto wedyn yn 1941 pan ddaeth y Natsïaid. Heb y sefydliadau hyn, a heb unrhyw fath o gyfundrefn gyfreithiol weithredol, roedd iddewon yn hollol ddi-amddiffyn. Cymhariaeth drawiadol mae Snyder yn ei gynnig i ddangos hyn yw Denmarc ac Estonia. Roedd Estonia cyn y rhyfel, yn ôl Snyder, yn llawer iawn llai gwrth-semitaidd na Denmarc. Er hynny, yn ystod yr Holocost, lladdwyd dros 99% o iddewon Estonia. Lladdwyd prin dim o iddewon Denmarc. Mae Snyder yn priodoli hyn i’r modd y dinistrwyd gwladwriaeth Estonia yn gyfan gwbl, ddwywaith. Yn wahanol i’r ymgyrch yn y dwyrain, fodd bynnag, penderfynodd Hitler adael sefydliadau Denmarc yn eu lle, gan fodloni ar droi’r wlad yn byped Natsïaid yn hytrach na’i datgymalu’n llwyr. Am y rheswm hwn, roedd iddewon yn llawer saffach yn yr Almaen ei hun nag yn y gwledydd Slafig a oresgynnwyd gan y Wehrmacht. Mae Snyder yn portreadu Hitler fel ‘anarchydd eco-hiliol’.  Un ffaith sydd wedi mynd braidd yn angof erbyn hyn yw mai America oedd ysbrydoliaeth Hitler: roedd yn edmygu’r modd yr aeth yr Americanwyr ati i gael gwared ar y boblogaeth frodorol ac i feddianu’u tiroedd. Nid oedd y borodorion yn cael eu hystyried yn bobl go iawn, ac roedd Hitler yn dirmygu’r Slafiaid yn yr un ffordd. Dyma pam yr aeth ati i ddinistrio’u gwledydd mor drylwyr: nid oedd yn ystyied Wcrain, er enghraifft, yn wlad ddilys, gan nad oedd yr Wcraniaid yn bobl gyflawn. Bwriad Hitler oedd defnyddio tir Wcrain i dyfu bwyd i’r Almaenwyr; roedd mewn panig am brinder bwyd, am nad oedd yn credu yng ngwyddoniaeth y chwyldro amaethyddol a oedd ar fin dechrau. Mae’n bwysig atgoffa’n hunain o’r dylanwad Americanaidd ar feddwl Hitler, oherwydd mae’n dangos bod llinach hanesyddol i’r ffordd yma o feddwl. Nid ymddangos o wagle a wnaeth. Yn y bennod olaf, mae Snyder yn pwysleisio’r angen i fod yn wyliadwrus rhag ofn i hanes ail-adrodd ei hun. Yn benodol, mae’n pryderu y bydd effeithiau newid hinsawdd ar y cyd â’r cynnydd ym mhoblogaeth y byd yn esgor ar banig ecolegol arall, wrth i’r angen am adnoddau ddwysáu. Mae Snyder yn dadlau bod hyn eisoes wedi bod yn ffactor yn Rwanda a Sudan. Mae’r rhan yma o’r llyfr yn ddadleuol: rwy’n amheus o’r posibilrwydd y bydd China’n dechrau ymgyrch i goncro rhannau o Affrica, er enghraifft, ond rwy’n ei chael yn haws o lawer eu dychmygu’n llygadu rhannau helaeth o Siberia. Prif wers y llyfr yn fy marn i yw pwysigrwydd cofio bod yr amgylchiadau anghywir yn gallu normaleiddio, yn sydyn dros ben, ymddygiad gan bobl normal iawn na fyddai wedi cael ei ystyried fel arall. Hunan-ddiddordeb oedd yn llywio ymddygiad yr unigolion a gyflawnodd bethau drwg ar y pryd. Mae ‘roedden nhw’n wrth-semitig’ yn esboniad anfoddhaol ac anghyflawn i’r Holocost, oherwydd mae’n ein gwahodd i deimlo’n hunanfodlon a’n ein hatal rhag dychmygu beth a fuasem ninnau wedi’i wneud yn yr un sefyllfa.


llwyddiant ysgubol
18/07/2018, 5:54 pm
Mae’n ymddangos bod y bobl ar y chwith eisiau i’r Arlywydd Trump fod wedi condemnio’r Arlywydd Putin yn y cyfarfod diwethaf, a chychwyn rhyfel fawr arall. Yn lle hynny, fe wnaeth yr Arlywydd Trump wneud ffrind ohono fo! Ofnir y bydd hynny’n cyfrannu at heddwch rhyngwladol; am siom (i’r bobl ar y chwith.) Roedd ei siwrnai i Ewrop yn llwyddiant ysgubol. Does dim angen edrych ar y manylion, a dweud y gwir. Dim ond gweld ymateb y bobl ar y chwith yn ddigon – maen nhw’n gwylltio’n gandryll.


Delyth Ifan: Dementia a Darllen
18/07/2018, 4:02 pm
Mae’r cyhoeddwr CAA Cymru newydd ryddhau tri llyfr am ddementia- y llyfrau cyntaf am y cyflwr yn y Gymraeg. Yma mae Delyth Ifan, cyfarwyddwr CAA Cymru, yn rhannu ei phrofiad o ddelio gyda dementia a pham mae’r llyfrau’n golygu cymaint iddi hi.  The publisher CAA Cymru have just released three books about dementia- the first books about the condition in Welsh. Here Delyth Ifan, director of CAA Cymru, shares her experience of dealing with dementia and why the books mean so much to her. Doeddwn i ddim wedi meddwl rhyw lawer am dementia tan ryw ddwy flynedd yn ôl. Wrth gwrs, roeddwn i wedi clywed yr adroddiadau yn y cyfryngau am y nifer gynyddol o bobl oedd yn dioddef o’r cyflwr, ond doeddwn i ddim wedi ei ystyried o ddifrif. Newidiodd hynny’n llwyr yn 2016. Roedd y teulu agos i gyd yn ymwybodol cyn i fy nhad farw bod fy mam wedi dechrau mynd ychydig bach yn anghofus dros y flwyddyn flaenorol. Dim byd mawr, dim ond tueddi i holi’r un cwestiwn fwy nag unwaith, anghofio enwau ac ambell ddyddiad. I had not thought very much about dementia until some two years ago. Of course, I had heard the reports in the media about the increasing number of people who where suffering from the condition, but I had never given them serious consideration. That changed completely in 2016. My immediate family were all aware before my father died that my mother had begun to be a little forgetful during the preceding year. Nothing very much, just a tendency to ask the same question more than once, to forget names and occasional dates. Ond wedyn, pan fu farw Dad ym mis Rhagfyr 2015, bu’n rhaid i Mam ddechrau dygymod â byw ar ei phen ei hun am y tro cyntaf erioed – roedd fy rhieni wedi priodi’n ifanc iawn ac wedi bod yn briod am 54 o flynyddoedd. Bryd hynny ddechreuon ni weld yr arwyddion cynnar o ddementia. Fwy na thebyg roedd Dad, oedd â chof fel rasel, wedi bod yn ‘cuddio’r’ dirywiad drwy atgoffa Mam am ben blwyddi, rhifau ffôn, apwyntiadau, a’r holl bethau bychain o ddydd i ddydd. But then, when my father died in December 2015, Mum had to begin coming to terms with living on her own for the first time ever – my parents had got married very young and had been married for 54 years. At that time we began to see the early signs of dementia. It is more than likely that Dad, who had a memory like a razor, had been ‘hiding’ the deterioration by reminding Mum of birthdays, phone numbers, appointments and all the little day-to-day things. Beth sy’n bod ar anghofio ambell ben blwydd a rhyw apwyntiad bob hyn a hyn, meddech chi? Dim byd o gwbl. Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n gwneud hynny o bryd i’w gilydd. Ond dim ond y dechrau oedd hyn. Roedd lot gwaeth i ddod. Yr hyn oedd yn frawychus am sefyllfa Mam oedd bod y dirywiad mor sylweddol, mor sydyn. What’s wrong with forgetting the occasional birthdays and some appointments every now and then, are you thinking? Nothing at all. Most of us do this from time to time. But this was just the beginning. A lot worse was to come. What was frightening about Mum’s condition was that the deterioration was so substantial, so quick. Ond dwi ddim am godi ofn ar neb, a rhaid i fi bwysleisio bod sawl un yn credu, o edrych yn ôl ar y cyfnod hwnnw, nad y dementia oedd yn llwyr gyfrifol am ymddygiad Mam. Neu, o’i roi mewn ffordd arall, roedd ‘na brofiadau personol penodol wedi cyflymu’r symptomau. Mewn cyfnod o ddwy flynedd roedd Mam wedi colli ei chwaer, ei gŵr, a’i merch. Bu farw fy chwaer, Beth, o ganser yn 51 mlwydd oed. Alla i ddim dychmygu ergyd fwy creulon na cholli plentyn. But I don’t want to scare anyone, and I must emphasise that many believe, looking back on that period, that it was not the dementia that was entirely responsible for Mum’s behaviour. Or, to put it another way, there were particular personal experiences that accelerated the symptoms. Within a period of two years Mum had lost her sister, her husband and her daughter. My sister, Beth, died of cancer at the age of 51. I cannot imagine a crueller blow than losing a child. Yn ystod y cyfnod rhwng haf 2016 a gwanwyn 2017, cyn y diagnosis a’r feddyginiaeth, byddai Mam weithiau yn ffonio aelodau o’r teulu agos sawl gwaith y dydd, yn aml wedi drysu; byddai’n ceisio defnydddio’r teclyn rheoli’r teledu i ateb y ffôn, a’r ffôn i ddiffodd y teledu; byddai’n codi a gwisgo erbyn saith y bore yn ystod yr wythnos yn barod i fynd i’r capel. Roedd hi hefyd yn ofni diffodd y teledu- fe ddywedodd wrtha i ar y ffôn ryw fore ei bod hi wedi mynd i’r gwely’r noson cynt a gadael y teledu ymlaen, oherwydd byddai ei ddiffodd yn gorfodi’r côr ar y llwyfan yng nghystadleuaeth Côr Cymru i stopio canu. Roedd hi’n meddwl weithiau wrth wylio rhaglenni fel ‘Noson Lawen’ bod y cyngerdd yn digwydd yn y tŷ, a bod y lolfa’n llawn pobl. In the period between summer 2016 and spring 2017, before the diagnosis and the medication, Mum would sometimes phone family members many times a day, often in a state of confusion; she would try to use the television remote to answer the phone, and the phone to switch off the television; during the week she would be up and dressed by seven in the morning ready to go to chapel. She was also afraid to switch off the television- she told me on the phone one morning that she had gone to bed the night before leaving the television on, because turning it off would cause the choir on the stage in the Welsh Choir Competition to stop singing. Sometimes while watching programs like ‘Noson Lawen’ she thought that the concert was taking place in the house, and that the sitting-room was full of people. Fel nifer o bobl sydd â dementia, roedd Mam yn waeth ar ôl iddi nosi. Mae’n debyg mai sundown syndrom yw’r term Saesneg. Wedi dweud hynny, roedd Mam, hyd yn oed yn y cyfnod pan oedd hi ar ei gwaethaf, yn mwynhau mynd am dro i lan y môr neu gaffi, neu i weld perthnasau, a gan amlaf roedd hi’n gwmni da ac yn hoffi ychydig o ddireidi. Like many people with dementia, Mum was worse after nightfall. They call this the ‘sundown syndrome’. Having said that, even during the period when Mum was at her worst, she enjoyed going for a walk by the sea or to a café, or to see relatives, and often she was good company and fond of a bit of mischief. Beth bynnag, ym mis Ionawr 2017, fe es i â Mam at y meddyg. Fe wnaeth e roi prawf cof o ryw 20 o gwestiynau iddi. Roedd ei hatebion i gwestiynau fel ‘Pa flwyddyn yw hi eleni?’ a ‘Pa fis yw hi nawr? i gyd yn anghywir, ond pan ofynnwyd iddi i enwi ei hathro neu athrawes gyntaf yn yr ysgol gynradd fe atebodd Mam y cwestiwn yn gywir fel shot- ac ymhelaethu ar ei hateb! However, in January 2017 I took Mum to the doctor. He gave her a memory test of some 20 questions. Her answers to questions like ‘In which year are we now?’ and ‘What month is it now?’ were all wrong, but when she was asked to name her first teacher in primary school Mum answered the question correctly like a shot- and elaborated on the answer! Yn dilyn hynny, cafodd Mam sgan ar ei hymennydd. Dangosodd hwnnw fod ganddi vascular dementia, sef problemau yn ymwneud â diffyg llif gwaed i’r ymennydd ar adegau. Ar ôl apwyntiad gydag ymgynghorydd, cafodd wedyn ddiagnosis o Alzheimers. Doedd y tabledi gafodd hi gyntaf ddim yn cytuno â hi, ond ar ôl newid y rheiny, gwellodd y symptomau yn eithaf cyflym. Eto, dwi’n credu bod y galar dwys wedi dechrau cilio erbyn hynny. Following this, Mum had a brain scan. This showed that she had vascular dementia, that is to say, problems relating to a deficiency in the flow of blood to the brain at times. After an appointment with a consultant, she was then diagnosed with Alzheimer’s. The tablets that she was given at first did not agree with her, but after changing those, the symptoms improved quite rapidly. Still, I believe that her deep grief had begun to recede by that time. Mae Mam erbyn hyn yn dda iawn ar y cyfan. Ydy, mae’n cymysgu pa ddiwrnod yw hi; ydy, mae hi’n rhoi’r llaeth yn y cwpwrdd bwyd a’r clwtyn golchi llestri yn yr oergell; ydy, mae’n anghofio pwy sydd wedi galw i mewn i’w gweld hi, ond mae hi’n dal i gael pleser o’r pethau bychain. Darllen yw un o’r rheiny. At present Mum is very good on the whole. Yes, she gets confused over what day it is; yes, she puts the milk in the food cupboard and the dishcloth in the fridge; yes, she forgets who it was called in to see her, but she still takes pleasure in little things. Reading is one of them. Roedd Mam, fel finnau, bob amser yn mwynhau darllen a thrafod llyfrau. Roedd hi’n aelod brwd o’r gymdeithas lenyddol leol. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu rhywfaint ei hun, ac enillodd fwy nag un wobr am ysgrifennu stori fer. Dwi’n meddwl mai ei hoffter o ddarllen ac ysgrifennu, yn ogystal â’i ffydd, oedd wedi ei harwain i ddilyn cwrs mewn diwinyddiaeth a chael ei hordeinio yn weinidog yn 1995, ar ôl blynyddoedd o fod yn wraig fferm a magu pump o blant. Mum, like me, always enjoyed reading and discussing books. She was a keen member of the local literary society. She also wrote a certain amount herself, and won more than one prize for short story writing. I think that it was her fondness for reading and writing, as well as her faith, that led her to follow a course in divinity and become ordained as a minister in 1995, after years of being a farmer’s wife and bringing up five children. Yn drist, dyw Mam ddim yn gallu darllen nofelau nawr. Hynny yw, mae’n gallu eu darllen, ond dyw hi ddim yn gallu eu deall, gan ei bod yn anghofio beth yw’r stori a phwy yw’r cymeriadau. Ond mae hi’n parhau i fwynhau darllen straeon byrion, barddoniaeth, a rhyw bytiau o lenyddiaeth, a hynny yn Gymraeg yn bennaf. Sadly, Mum cannot read novels now. That is, she can read them, but she cannot understand them, because she forgets what the story is and who the characters are. But she continues to enjoy reading short stories, poetry, and some short literary pieces, and that mainly in Welsh. Dyna pam roeddwn i mor falch mai CAA Cymru, y cwmni cyhoeddi yn Aberystwyth rydw i’n gyfarwyddwr arno, gafodd y gwaith yn ddiweddar o gyhoeddi’r tri llyfr Cymraeg cyntaf ym maes dementia. Rhan o gynllun ‘Darllen yn well: Llyfrau ar brescripsiwn’ i ddarparu llyfrau yn arbennig ar gyfer pobl sydd â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr, yw hwn. Yn wreiddiol, llyfrau Saesneg yn unig y bwriadwyd eu cyhoeddi dan y cynllun, ond diolch i Gyngor Llyfrau Cymru, a lwyddodd i gael nawdd gan Lywodraeth Cymru, mae llyfrau Cymraeg hefyd yn rhan ohono erbyn hyn. That is why I am so glad that CAA Cymru, the publishing company in Aberystwyth of which I am a director, took on the job recently of publishing the first three books in Welsh in the field of dementia. This is part of the ‘Reading Well: Books on Prescription’ scheme to provide books for those with dementia, their families and carers. Originally, the intention was to publish only English books under the plan, but thanks to the Welsh Books Council, who managed to get sponsorship from the Welsh Government, Welsh books also are now a part of it. Bydd y llyfrau hyn ar gael am ddim ‘ar bresgripsiwn’ drwy’r llyfrgelloedd. Bydd y llyfrau hefyd ar werth i’r rheiny sydd ddim wedi cael presgripiswn. Er mai dim ond tri llyfr Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd, y bwriad yw cynhyrchu degau yn rhagor dros y flwyddyn neu ddwy nesaf. The books will be available free of charge ‘on prescription’ from libraries. The books will also be on sale to those who have not got a prescription. Although only three Welsh books are available at the present time, the intention is to produce tens of them over the next year or two. Mae astudiaethau diweddar yn amcangyfrif bod rhwng 33,444 a 55,829 o bobl yn byw gyda dementia yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae arbenigwyr yn amcangyfrif y bydd nifer y bobl yng Nghymru sydd â dementia yn cynyddu 31% erbyn 2021. O ystyried y bydd nifer o’r bobl hynny, eu teuluoedd, eu gofalwyr a’u ffrindiau yn Gymry Cymraeg, mae’n hanfodol bod deunydd darllen pwrpasol ar gael yn eu mamiaith. The latest studies estimate that between 33,444 and 55,829 people in Wales are currently living with dementia. Specialists estimate that the number of people in Wales will increase by 31% by 2021. Considering that a number of these people, their families, their carers and friends are Welsh-speaking Welsh, it is vital that there should be suitable reading material available in their mother tongue. Y tri llyfr Cymraeg ar ddementia wedi’u cyhoeddi gan CAA Cymru: Mam-gu & Fi, Ynghylch Dementia & Annwyl Dementia – Y Chwerthin a’r Dagrau


Caerdydd yn Croesawu’r Byd
18/07/2018, 9:57 am
Ymhlith y casgliad enfawr o ffotograffau a ddelir yn Archifau Morgannwg, mae tri a dynnwyd 60 mlynedd yn ôl sy’n rhoi cliw i ddigwyddiad mawr a afaelodd yn y ddinas a gweddill Cymru ym mis Gorffennaf 1958 gan sicrhau mai Cymru, am 8 diwrnod, oedd ffocws sylw nid yn unig ym Mhrydain ond ledled y byd. Yr un cyntaf yw ffotograff a dynnwyd o Heol Eglwys Fair tuag at Gastell Caerdydd. O edrych yn gyflym arno, mae’r olygfa’n ymddangos yn debyg iawn i sut roedd ei golwg mewn blynyddoedd diweddar, hyd nes troi’r stryd yn ardal i gerddwyr. Rhaid cyfaddef bod y ceir a’r dillad sy’n cael eu gwisgo gan y bobl sy’n mynd heibio yn bendant yn dod o’r 1950au ond mae’n dal yn bosib adnabod arwyddion siopau, gan gynnwys arwydd ar gyfer Bwyty Louis yn y gornel dde ar waelod y ffotograff ac adeilad Howells yng nghanol y llun. Ond edrychwch yn agosach ar siop adrannol Howells. Ar y to fe welwch gerflun efydd enfawr o ffigwr yn dal gwaywffon ac ar fin ei thaflu – y gellid honni – i gyfeiriad yr Hen Lyfrgell. Yr ail un yw ffotograff o Heol-y-Frenhines gan edrych unwaith eto tuag at y castell. Efallai nad yw’r un mor gyfarwydd â Heol Eglwys Fair a’r Stryd Fawr ond byddwch yn gweld nifer o adeiladau presennol os ydych yn edrych uwchben blaenau’r siopau, gan gynnwys hen du blaen Marks and Spencer a’r banc â’i du blaen colofnog ar ochr chwith y stryd. Fodd bynnag, mae’n amlwg bod rhywbeth yn digwydd yno 60 mlynedd yn ôl gan fod y stryd dan ei sang â phobl. Yn ogystal, mae draig enfawr yn gorymdeithio i lawr canol y stryd. Yn olaf, ceir ffotograff o grŵp mawr o fyfyrwyr yn sefyll y tu allan i fynedfa Neuadd Aberdâr yng Nghaerdydd. Sylwch ar yr amrywiaeth o wisgoedd cenedlaethol, gan gynnwys rhai o Gymru, yr Alban, Ynysoedd y Môr Tawel a Chanada. Yn ogystal, mae rhai pobl yn gwisgo dillad chwaraeon, gan gynnwys y cleddyfwr ar y dde. Fodd bynnag, caiff yr ateb i’r dirgelwch hwn ar yr arwydd sy’n cael ei ddal o flaen y grŵp:   Ym mis Gorffennaf 1958 cynhaliwyd chweched Gemau’r Ymerodraeth Brydeinig a’r Gymanwlad yng Nghaerdydd. Roedd yn achlysur pwysig. Yn y gemau cyntaf a gynhaliwyd yng Nghanada ym 1930, roedd tîm cyfan Cymru’n cynnwys 2 gystadleuwr yn unig (nofwyr ill dau) – dim ond digon i gario’r faner a chario placard ‘Wales’ yn y seremoni agoriadol. Yn eironig ddigon, enillodd dyn o Gymru, Reg Thomas, fedal aur athletig yng ngemau 1930 ond roedd yn cystadlu dros Loegr gan nad oedd gan Gymru dîm athletig. Nawr, dim ond 28 mlynedd yn ddiweddarach, roedd Cymru’n cynnal y gemau gyda 36 o wledydd a 1400 o athletwyr a swyddogion yn cymryd rhan.   Dros yr wythnosau nesaf, trwy ddefnyddio’r cofnodion a ddelir yn Archifau Morgannwg, byddwn yn rhannu atgofion o fis Gorffennaf 1958 pan fu Cymru’n croesawu’r byd. I’r rhai sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y gemau, rhoddir manylion o ba le i weld y ffotograffau a’r cofroddion yn Archifau Morgannwg. Felly, gan ddechrau gyda’r erthygl hon, gellir dod o hyd i’r ffotograffau o Heol Eglwys Fair a Heol-y-Frenhines o dan gyfeirnod 1998/68 a cheir y ffotograff o Neuadd Aberdâr o dan gyfeirnod DUCAH/43/30.